1
Luc 16:10
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
ប្រៀបធៀប
រុករក Luc 16:10
2
Luc 16:13
Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.”
រុករក Luc 16:13
3
Luc 16:11-12
Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud? Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain?
រុករក Luc 16:11-12
4
Luc 16:31
Ond meddai ef wrtho, ‘Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chânt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.’ ”
រុករក Luc 16:31
5
Luc 16:18
Y mae pob un sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac y mae'r dyn sy'n priodi gwraig a ysgarwyd gan ei gŵr yn godinebu.
រុករក Luc 16:18
គេហ៍
ព្រះគម្ពីរ
គម្រោងអាន
វីដេអូ