Salmau 19

19
SALM XIX
O Lyfr Canu’r Pencerdd.
Salm Dafydd.
I. Cân yn clodfori Duw yn Natur.
1Ni phaid y nefoedd â datgan gogoniant Duw,
Na’r ffurfafen fynegi gwaith ei ddwylo.
2Heddiw sydd o hyd yn adrodd yr hanes wrth yfory,
A heno’n traethu’r wybodaeth i’r nos a’i dilyno,
3Mewn iaith heb eiriau na sŵn iddi.
4Eto aeth eu sain allan drwy’r holl ddaear,
A’u geiriau hyd eithafoedd byd.
Gosododd babell i’r haul yn y môr.
5A daw yntau allan o’i ystafell fel gŵr priod,
A rhed ei yrfa yn llawen fel gwron.
6O’r Dwyrain pell y cychwyn,
A’i gylch sydd hyd eithaf y Gorllewin.
Nid oes guddio rhag ei haul Ef.
II. Cân yn clodfori’r Ddeddf.
7Cyfraith Iehofa sydd berffaith,
Yn adfer enaid.
Tystiolaeth Iehofa sydd gywir.
Yn rhoi doethineb i’r syml.
8Rheolau Iehofa sydd union,
Yn sirioli’r galon.
Gorchymyn Iehofa sydd bur,
Yn goleuo’r llygaid.
9Ofn Iehofa sydd lân,
Yn parhau am byth.
Ordeiniadau Iehofa sydd wir,
A chwbl gyfiawn.
10Y maent i’w chwennych yn fwy nag aur,
Yn fwy nag aur coeth lawer.
Melysach ydynt na mêl,
A diferiad y diliau.
11Rhybuddir dy was drwyddynt,
Elw mawr sydd o’u cadw.
12Pwy sy’n medru dirnad ei lithriadau?
Y beiau cudd maddau i mi.
13Atal dy was rhag y beiau beilchion;
Na ad iddynt fy lordio i.
14Bydded geiriau fy ngenau,
A myfyrdod fy nghalon
Yn gymeradwy gennyt yn wastad,
O Iehofa, fy Nghraig a’m Prynwr.
salm xix
Y mae yna ddwy Salm, yn perthyn i wahanol gyfnodau a chan wahanol awduron, wedi eu plethu yn un.
Yn y rhan gyntaf (1-6) molir gogoniant Iehofa yn y llu nefol, a chynhyrfir yr awdur yn ddwys gan ysblander dihafal yr haul gogoneddus.
Dan ddylanwadau Babilonaidd denwyd amryw i addoli’r haul yn Ieriwsalem (gwêl Esra 8:16), ac efallai mai darn o bennill oedd unwaith yn rhan o folawd i’r Haul Dwyfol ydyw’r disgrifiad o’r haul sydd yn y Salm hon.
Y mae gweddill y Salm yn perthyn i dylwyth y Salm Fawr, ac ynddi mawrygir y Gyfraith. Gellir deall dodi’r ddwy gân ynghyd gan awdur a fynnai ddangos bod gogoniant Duw yn y Gyfraith yn rhagori ar ogoniant Duw yn Natur.
Nodiadau
1, 2, 3. Gogoniant Duw ydyw ei allu a’i ddoethineb a’r ardderchowgrwydd wedi eu datguddio. Personolir y nefoedd a’r ffurfafen a’r dydd a’r nos yn yr adnodau hyn.
Aeth yr hen gyfieithiad yn adn. 3 ar gyfeiliorn wrth awgrymu mai datgan y gogoniant ym mhob iaith drwy’r byd a feddylir. Yr ystyr yw nad oes derfyn ar ddatgan gogoniant Duw, trosglwydda un dydd yr hanes am y gogoniant hwnnw i’r dydd sy’n dilyn, ac edrydd nos y stori wrth y nos a’i dilyno, a cheir un llinin aur o fawl na phaid byth.
Iaith gyfrin, fud, ydyw iaith y lloer a’r sêr a’r haul, — ni raid iddi wrth eiriau nac ymadroddion, a iaith yw hi a ddeellir ymhob gwlad ac ymysg pob cenedl lle ceir eneidiau dethol yn gwrando.
4, 5, 6. Os cywir yr hen gyfieithiad ni all ‘ynddynt’ adn. 4 olygu ond ‘y nefoedd’. Y cyfnewid lleiaf a ddyry’r darlleniad esmwyth a champus ‘yn y môr’. Nid oes yma gyfeiriad at briodas yr haul ond cyfeiriad sydd at ddisgleirdeb ac egni llawen ei godiad. Y cawr ydyw’r pencampwr sy’n arwr ar faes y rhedeg yn ogystal ag ar faes y gwaed.
Swta braidd ydyw terfynu’r gân yma, a diau mai darn yw hi o gân helaethach oedd yn cynnwys syniadau na fedrai’r awdur ddygymod â hwynt.
7, 8, 9. Ceir yma chwech o eiriau cyfystyr am ‘Gyfraith’ a chysylltir ansoddair a bendith â phob un.
Cyfraith yr Arglwydd ydyw ei athrawiaeth a’i ddysgeidiaeth, yn arbennig fel y’i datguddir hwynt yng nghyfraith Moses, a chyfan a difai ydynt, yn rhoddi i ddyn luniaeth ysbrydol.
Tystiolaeth ydyw’r Gyfraith fel y mae’n dyst i Iehofa ac yn ategu ei ewyllys, a dyry ddoethineb i’r gŵr syml sy’n agored i dderbyn.
Rheolau, manylion a chyfeiriadau’r Gyfraith sy’n cynhesu teimladau dyn, ac yn ei gadw rhag cyfeiliorni.
Ofn Iehofa, ydyw’r Gyfraith fel gwrthrych parch sy’n parhau fyth, ni ellir ei newid i gyfarfod â defodau ac arferion pob oes.
Gorchymyn ydyw’r Gyfraith yn ei gwedd broffwydol sy’n goleuo deall dyn.
Ordeiniadau y Gyfraith fel dyfarniadau cywir na ŵyrant fyth oddi wrth safonau cyfiawnder ac uniondeb.
12, 13. Llithriadau, a wna’n ddiwybod. Arswydir y Salmydd gan fanylrwydd y Gyfraith, a gweddïa am gael ei gyhoeddi yn ddieuog, canys yn ddifwriad ac yn ysgafala y cyflawnir y beiau cudd. Gellir darllen ‘dynion beilchion’ yn lle ‘beiau beilchion’, sef y gwŷr traws a’i gwna yn anodd iddo gadw’r Gyfraith.
Pynciau i’w Trafod:
1. A ydyw gwyddoniaeth heddiw yn dywedyd “Amen” i fawlgan y Salmydd? A ddug Seryddiaeth dystiolaeth ddiamwys i ogoniant Duw?
2. A oes olion addoli’r haul yn yr Hen Destament? Job 31:26, 27; Esec. 8:16, 17; 2 Bren. 23:5-11; Deut. 4:19 a 17:2-5.
3. Pa un o’r ddau ddatguddiad, — datguddiad Duw yn Natur ynteu datguddiad Duw yn ei Air a gynhyrcha’r defosiwn mwyaf?

선택된 구절:

Salmau 19: SLV

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요