Ioan 1
1
PENNOD I.
Rheswm yn cael ei fywhai.
1RHESWM oedd o’r dechreuad, a’r rheswm oedd ger bron Duw, a’r rheswm oedd yn Dduw. 2Hwn oedd yn y dechreuad ger bron Duw. 3Yn ol hwnnw y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. 4Trwyddo ef daeth bywyd; a’r bywyd oedd y goleuni i ddynolrhyw. 5A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a ni allodd y tywyllwch ei gysgodi. 6Yr oedd gwr wedi ei anfon gan Dduw, a’i enw Ioan. 7Hwn a ddaeth er tystiolaeth, i dystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9Y gwir Oleuni oedd yr hwn y sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd. 10Yr oedd efe yn y byd, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11At ei eiddo y daeth, a’i eiddo ni dderbyniasent ef. 12Ond cynnifer ag a’i derbyniasant, efe a roddes iddynt awdurdod i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw. 14A’r Rheswm a wnaethpwyd yn ddyn, ac a drigodd yn ein plith ni (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad) yn llawn cariad a gwirionedd. 15Ioan a dystiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn, sydd yn dyfod ar fy ol i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o fy mlaen i. 16Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, cariad am gariad; 17Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y cariad a’r gwirionedd a ddaethant trwy Iesu Ghrist. 18Ni welodd neb Dduw eriôed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hyspysodd ef. 19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iudaion o Ierusalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti? 20Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid wyf fi y Christ. 21A hwy a ofynasant iddo, Beth ynte? Ai Elïas wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nag ê. Ai’r Prophwyd wyt ti? Ac efe a attebodd, Nag ê. 22Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom atteb i’r rhai a’n danfonasant. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? 23Eb efe, Myfi wyf llef un yn gwaeddi yn y lle angyfanedd, Uniawnwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedai Esay y prophwyd. 24A’r rhai a anfonasid oeddynt o’r Pharisai. 25A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Christ, nac Elïas, na’r prophwyd? 26Ioan a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi wyf yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwaenoch chwi: 27Efe sydd yn dyfod ar fy ol i yw yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddattod carrai ei esgid. 28Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iordan, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. 29Ar y foru Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod atto; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn dwyn ymaith bechodau y byd. 30Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Y mae gwr yn dyfod ar fy ol i, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o fy mlaen i. 31A myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y daethum i, gan fedyddio â dwfr. 32Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Yspryd yn disgyn, megis colommen, o’r nef, ac efe a breswyliodd arno ef. 33A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw yr un sydd yn bedyddio â’r Yspryd Glân. 34A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw. 35Ar y foru y safodd Ioan drachefn, a dau o’i ddisgyblion: 36A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw. 37A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. 38Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Athraw, pa le yr wyt ti yn trigo? 39Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arhosasant gyd ag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr. 40Andreas brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef. 41Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Messias; yr hyn o’i ddeongl yw, Yr eneiniog. 42Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. A’r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Iona: ti a elwir Kephas, yr hwn a gyfieithir, Craig. 43Ar y foru yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilaia, ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 44A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. 45Philip a gafodd Nathanaël, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y gyfraith, a’r prophwydi, am dano, Iesu o Nazaret, mab Ioseph. 46A Nathanaël a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nazaret? Philip a ddywedodd wrtho, Dyred a gwel. 47Iesu a ganfu Nathanaël yn dyfod atto; ac a ddywedodd am dano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. 48Nathanaël a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. 49Nathanaël a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Athraw, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. 50Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, O herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy nâ’r rhai hyn. 51Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.