성경 앱 로고
검색 아이콘

Josua 16

16
Y tir gafodd disgynyddion Joseff
1Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy’r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel. 2Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth. 3Yna roedd yn mynd i lawr i’r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir. 4Dyma’r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse.
Y tir gafodd llwyth Effraim
5Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf, 6yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach. 7Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära, cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at afon Iorddonen. 8O Tapŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr.
Dyma’r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim. 9Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda’r pentrefi o’u cwmpas.
10Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae’r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.

선택된 구절:

Josua 16: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요