성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 120

120
Gweddi am help
Cân yr orymdaith.
1Yn fy argyfwng dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD
ac atebodd fi!
2“O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog,
a thafodau twyllodrus!”
3Dyma gei di ganddo
– ie, dyma fydd dy gosb –
ti, dafod twyllodrus:
4saethau miniog y milwyr
wedi’u llunio ar dân golosg!
5Dw i wedi bod mor ddigalon,
yn gorfod byw dros dro yn Meshech,
ac aros yng nghanol pebyll Cedar.#120:5 Meshech Cedar Meshech: gwlad i’r de o’r Môr Du; Cedar: llwyth o bobl oedd yn byw yn yr anialwch i’r de-ddwyrain o Israel.
6Dw i wedi cael llond bol ar fyw
yng nghanol pobl sy’n casáu heddwch.
7Dw i’n siarad am heddwch,
ac maen nhw eisiau rhyfela!

선택된 구절:

Salm 120: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요