성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 13

13
Gweddi am help
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1Am faint mwy, ARGLWYDD?
Wyt ti’n mynd i’m diystyru i am byth?
Am faint mwy rwyt ti’n mynd i droi cefn arna i?
2Am faint mwy mae’n rhaid i mi boeni f’enaid,
a dal i ddioddef fel yma bob dydd?
Am faint mwy mae’r gelyn i gael y llaw uchaf?
3Edrych arna i!
Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw!
Adfywia fi,
rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;
4rhag i’r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”
ac i’r rhai sy’n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.
5Ond na, dw i’n trystio dy fod ti’n ffyddlon!
Bydda i’n gorfoleddu am dy fod wedi f’achub i.
Bydda i’n canu mawl i ti, ARGLWYDD,
am achub fy ngham.

선택된 구절:

Salm 13: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요