성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 148

148
Galw ar bopeth i foli Duw
1Haleliwia!
Molwch yr ARGLWYDD o’r nefoedd!
Molwch e o’r uchder.
2Molwch e, ei holl angylion.
Molwch e, ei holl fyddinoedd.
3Molwch e, haul a lleuad.
Molwch e, yr holl sêr.
4Molwch e, y nefoedd uchod,
a’r dŵr sydd uwchben y nefoedd.
5Boed iddyn nhw foli enw’r ARGLWYDD,
am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
6Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,
a gosod trefn fydd byth yn newid.
7Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear,
a’r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
8Y mellt a’r cenllysg, yr eira a’r niwl,
a’r gwynt stormus sy’n ufudd iddo;
9y mynyddoedd a’r bryniau i gyd,
y coed ffrwythau a’r coed cedrwydd;
10pob anifail gwyllt a dof,
ymlusgiaid ac adar;
11yr holl frenhinoedd a’r gwahanol bobloedd,
yr arweinwyr a’r barnwyr i gyd;
12bechgyn a merched
hen ac ifanc gyda’i gilydd.
13Boed iddyn nhw foli enw’r ARGLWYDD!
Mae ei enw e’n uwch na’r cwbl;
mae ei ysblander yn gorchuddio’r nefoedd a’r ddaear!
14Mae wedi rhoi buddugoliaeth i’w bobl,
ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,
sef Israel, y bobl sy’n agos ato.
Haleliwia!

선택된 구절:

Salm 148: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요