성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 47

47
Y Brenin sy’n rheoli popeth
I’r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.
1Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!
Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
2Mae’r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i’w ryfeddu,
ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3Mae’n gwneud i bobloedd ymostwng i ni,
ni sy’n eu rheoli nhw.
4Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –
tir i Jacob, y bobl mae wedi’u caru, ymfalchïo ynddo.
Saib
5Mae Duw wedi esgyn i’w orsedd, a’r dyrfa’n gweiddi’n llawen.
Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a’r corn hwrdd#47:5 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn seinio!
6Canwch fawl i Dduw, canwch!
canwch fawl i’n brenin ni, canwch!
7Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;
Canwch gân hyfryd iddo!
8Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd.
Mae e’n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu
gyda phobl Duw Abraham.
Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr#47:9 lywodraethwyr Hebraeg, “tarianau”, yn cynrychioli’r llywodraethwyr oedd i amddiffyn y bobl. y byd;
mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd.

선택된 구절:

Salm 47: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요