성경 앱 로고
검색 아이콘

Salm 8

8
Mae Duw mor fawr!
I’r arweinydd cerdd: Salm ar yr alaw “Y Gwinwryf”. Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, ein brenin,
mae dy enw di mor fawr drwy’r byd i gyd!
Mae dy ysblander yn gorchuddio’r nefoedd yn gyfan!
2Gyda lleisiau plant bach a babanod
rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion,
i roi diwedd ar y gelyn sy’n hoffi dial.
3Wrth edrych allan i’r gofod, a gweld gwaith dy fysedd,
y lleuad a’r sêr a osodaist yn eu lle,
4Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?
Pam cymryd sylw o un person dynol?
5Rwyt wedi’i wneud ond ychydig is na’r bodau nefol,
ac wedi’i goroni ag ysblander a mawredd!
6Rwyt wedi’i wneud yn feistr ar waith dy ddwylo,
a gosod popeth dan ei awdurdod –
7defaid ac ychen o bob math,
a hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt;
8yr adar sy’n hedfan, y pysgod sydd yn y môr,
a phopeth arall sy’n teithio ar gerrynt y moroedd.
9O ARGLWYDD, ein brenin,
mae dy enw di mor fawr drwy’r byd i gyd!

선택된 구절:

Salm 8: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요