성경 앱 로고
검색 아이콘

Caniad Solomon 7

7
Y cariad:
1Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,
o ferch fonheddig.
Mae dy gluniau mor siapus –
fel gemwaith gan grefftwr medrus.
2Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron
yn llawn o’r gwin cymysg gorau.
Mae dy fol fel pentwr o wenith
a chylch o lilïau o’i gwmpas.
3Mae dy fronnau yn berffaith
fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
4Mae dy wddf fel tŵr o ifori,
a’th lygaid fel llynnoedd Cheshbon
ger mynedfa Bath-rabbîm.
Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus
sy’n wynebu dinas Damascus.
5Ti’n dal dy ben yn uchel
fel Mynydd Carmel
ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud
yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
6O, rwyt mor hardd! Mor hyfryd!
Ti’n fy hudo, fy nghariad!
7Ti’n dal fel coeden balmwydd,
a’th fronnau’n llawn fel ei sypiau o ddatys.
8Dw i am ddod a dringo’r goeden
a gafael yn ei ffrwythau.
Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,
a’u sawr yn felys fel afalau.
9Mae dy gusanau fel y gwin gorau
yn llifo’n rhydd ar fy ngwefusau
wrth i ni fynd i gysgu.
Y ferch:
10Fy nghariad piau fi,
ac mae f’eisiau.
11Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i’r caeau;
gad i ni dreulio’r nos rhwng y blodau henna.
12Gad i ni godi’n gynnar
a mynd lawr i’r gwinllannoedd,
i weld os ydy’r winwydden wedi blaguro
a’u blodau wedi agor;
ac i weld os ydy’r pomgranadau’n blodeuo –
yno gwnaf roi fy hun i ti.
13Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau#7:13 mandragorau neu “ffrwythau cariad”. Roedd pobl y credu fod bwyta’r ffrwyth yma yn cyffroi chwant rhywiol ac yn helpu merched i feichiogi (cf. Genesis 30:14-16).
yn llenwi’r awyr,
a danteithion pleser wrth ein drysau –
y cwbl dw i wedi’i gadw
i’w rannu gyda ti, fy nghariad.

선택된 구절:

Caniad Solomon 7: bnet

하이라이트

복사

비교

공유

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요