Genesis 4
4
DOSBARTH IV
Hanes Cain ac Abel.
1Ac Adda a adnabu Efa, ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, “Cefais wr gan Dduw.” 2A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef, Abel. Ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar. 3A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn, o adgen y ddaiar, offrwm i’r Arglwydd. 4Ac Abel yntau hefyd a ddug o gyntafenedigion ei ddefaid, ac o’u brasder hwynt. A Duw a edrychodd ar Abel, ac ar ei roddion ef; 5ond ni edrychodd Efe ar Cain, nac ar ei offrymau ef: ac ymofidiodd Cain yn ddirfawr, ac ymollyngodd yn ei wynebpryd. 6A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth Cain, “Pa ham yr wyt yn athrist? a pha ham yr ymollyngodd dy wynebpryd? 7Er offrymu o honot yn iawn, ond heb ei ranu yn iawn, oni phechaist? Ymlonydda; atat ti y bydd ei ddychweliad; a thi a lywodraethi arno ef.”
8A Chain a ddywedodd wrth Abel, ei frawd, “Awn allan i’r maes.” A bu, tra yr oeddynt hwy yn y maes, i Cain godi yn erbyn Abel, ei frawd, ac a’i lladdodd ef. 9A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth Cain, “Mae Abel, dy frawd?” Yntau a ddywedodd, “Nis gwn. Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?” 10A’r Arglwydd a ddywedodd, “Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf Fi o’r ddaiar. 11Ac yn awr melltigedig wyt ti o’r ddaiar, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. 12Pan lafuriech y ddaiar, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; yn griddfan ac yn crynu y byddi ar y ddaiar.” 13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd Dduw, “Mwy yw fy mhechod nag y gellir ei faddeu!” 14“Os gyraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac o’th ŵydd Di y’m cuddir, ac yn griddfan ac yn crynu y byddaf ar y ddaiar; yna y bydd i bwy bynag a’m caffo, fy lladd.” 15A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrtho, “Nid felly: pwy bynag a laddo Cain, a dâl y pwyth yn saith ddyblyg.” A’r Arglwydd Dduw a roddodd arwydd i Cain, na fyddai i neb a’i caffai, ei ladd ef. 16Felly Cain a aeth allan o ŵydd Duw, ac a drigodd yng ngwlad Nod, ar gyfer Eden.
17A Chain a adnabu ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr oedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch. 18Ac i Enoch y ganwyd Gaidad; a Gaidad a genedlodd Maleleel; a Maleleel a genedlodd Mathusala; a Mathusala a genedlodd Lamech. 19A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wraig; enw un oedd Ada, ac enw yr ail, Sela. 20Ac Ada a esgorodd ar Iobel: hwn oedd tad preswylwyr pebyll, yn porthi anifeiliaid. 21Ac enw ei frawd ef oedd Iubal: hwn oedd ddychymmygydd y psalterion a’r delyn. 22A Sela, hithau, hefyd a esgorodd ar Thobel; ac yr oedd efe yn fwrthwyliwr pres a haiarn: a chwaer Thobel oedd Noema. 23A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, “Ada a Sela, clywch fy llais! gwragedd Lamech, gwrandëwch fy ngeiriau! canys mi a leddais wr i’m harcholl, a llanc i’m clais. 24Gan y dialwyd Cain seithwaith, yna Lamech a ddielir saith-ddeng-seithwaith.”
DOSBARTH V
Hiliogaeth Adda, trwy linach Seth, hyd Nöe.
25Ac Adda, a adnabu Efa, ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac a alwodd ei enw ef Seth, gan ddywedyd, “O herwydd Duw a gyfododd i mi had arall yn lle Abel, yr hwn y lladdodd Cain ef.” 26Ac i Seth y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos; efe a ddysgwyliodd gael ei enwi ar enw yr Arglwydd Dduw.
Cyfieithwyd gan Evan Andrews (1804-1869). Genesis 1 i 10:2 a gyhoeddwyd gan W. Spurrell yn 1866. Wedi’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2022.