Luc 17

17
A.D. 33. —
1 Crist yn dysgu gochelyd achosion rhwystr. 3 Am faddau bawb i’w gilydd. 6 Gallu ffydd. 7 Pa fodd yr ydym ni yn rhwymedig i Dduw, ac nid efe i ni. 11 Y mae yn iacháu deg o wahangleifion. 20 Am deyrnas Dduw, a dyfodiad Mab y dyn.
1Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, #Mat 18:6, 7; Marc 9:42Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant! 2Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.
3Edrychwch arnoch eich hunain. #Mat 18:15, 21Os pecha dy frawd yn dy erbyn, #Diar 17:10; Iago 5:19cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo. 4Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo. 5A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni. 6#Mat 17:20; Marc 9:23; 11:23A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi. 7Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta? 8Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau? 9Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied. 10Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision #Mat 25:30; Rhuf 3:12; Philem 11anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
11Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea. 12A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell: 13A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym. 14A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, #Lef 13:2; 14:2; Mat 8:4Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt. 15Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel. 16Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe. 17A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw? 18Ni chaed a ddychwelsant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. 19#Mat 9:22; Marc 5:34; 10:52; Pen 7:50 8:48 18:42Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.
20A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl. 21Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, #17:21 Neu, yn eich plith chwi.o’ch mewn chwi y mae. 22Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, #Edrych Mat 9:15; Ioan 17:12Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. 23A #Mat 24:23; Marc 13:21; Pen 21:8hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt. 24#Mat 24:27Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef. 25#Marc 8:31; 9:31; 10:33; Pen 9:22Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon. 26#Gen 7; Mat 24:37Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn. 27Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll. 28#Gen 19Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll: 30Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. 31Yn y dydd hwnnw y neb #Mat 24:17a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl. 32#Gen 19:26Cofiwch wraig Lot. 33#Mat 10:39; 16:25; Marc 8:35; Pen 9:24 Ioan 12:25Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi. 34#Mat 24:40, 41; 1 Thess 4:17Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 35Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 36#17:36 Y mae yr 36 adnod yma yn eisiau yn y rhan fwyaf o’r copiau Groeg.Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 37A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, #Job 39:30; Mat 24:28Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.

선택된 구절:

Luc 17: BWM1955C

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요