Luc 24

24
A.D. 33. —
1 Dau angel yn mynegi atgyfodiad Crist i’r gwragedd oedd yn dyfod at y bedd; 9 a’r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Crist ei hun yn ymddangos i’r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emaus: 36 ac wedi hynny i’r apostolion; ac yn ceryddu eu hanghrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymyn iddynt: 49 ac yn addo yr Ysbryd Glân: 51 ac felly yn esgyn i’r nefoedd.
1A’r #Mat 28:1; Marc 16:1; Ioan 20:1 dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio #24:5 yr hwn sydd yn fyw, & c.y byw ymysg y meirw? 6Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. #Mat 16:21; 17:23; Marc 9:31; Pen 9:22Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8A #Ioan 2:22hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9#Mat 28:8; Marc 16:10Ac a ddychwelsant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10A Mair Magdalen, a #Pen 8:3Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12#Ioan 20:3, 6Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 # Marc 16:12 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. 14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, #Mat 18:20; Ad. 36yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16Eithr #Ioan 20:14; 21:4eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? 18Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, #Mat 21:11; Pen 7:16 Ioan 4:19; 6:14yr hwn oedd ŵr o broffwyd, #Act 7:22galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21Ond yr oeddem ni yn gobeithio #Pen 2:38; Act 1:6mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22A hefyd #Mat 28:8; Marc 16:10; Ioan 20:18rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: 23A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26#Ad. 46; Act 17:3; 1 Pedr 1:11Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27A chan ddechrau ar #Gen 3:15; 22:18; 26:4; 49:10; Deut 18:15Moses, a’r #Salm 132:11; Esa 7:14; 9:6; 40:10; Jer 23:5; 33:14; Esec 34:23; 37:25; Dan 9:24; Micha 7:20; Edrych Ioan 1:45holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. 28Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac #Edrych Gen 32:26; 42:7; Marc 6:48yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29A #Gen 19:3; Act 16:15hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a #24:31 Neu, aeth yn anweledig iddynt.ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? 33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelsant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac #1 Cor 15:5a ymddangosodd i Simon. 35A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36 # Marc 16:14; Ioan 20:19 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: #Ioan 20:20, 27teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, #Ioan 21:5A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. 44Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 16:21; 17:22; 20:18; Pen 9:22; 18:31; Ad 6Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45Yna #Act 16:14yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Salm 22; Esa 53:2, &c; Act 17:3Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47A phregethu edifeirwch a #Act 13:38; 1 Ioan 2:12maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48Ac yr ydych #Ioan 15:27; Act 1:8chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele, #Ioan 14:16, 26; 15:26; 16:7; Act 1:4; 2:1, &cyr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.
50Ac efe a’u dug hwynt allan #Act 1:12hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51#Marc 16:19; Act 1:9Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52#Mat 28:9, 17Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53Ac yr oeddynt yn wastadol #Act 2:46; 5:42yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

선택된 구절:

Luc 24: BWM1955C

하이라이트

공유

복사

None

모든 기기에 하이라이트를 저장하고 싶으신가요? 회원가입 혹은 로그인하세요