Luc 23
23
Peilat yn croesholi Iesu
(Mathew 27:1,2,11-14; Marc 15:1-5; Ioan 18:28-38)
1Yna dyma nhw i gyd yn codi a mynd ag e at Peilat. 2Dyma nhw’n dechrau dadlau eu hachos yn ei erbyn, “Mae’r dyn yma wedi bod yn camarwain ein pobl. Mae’n gwrthwynebu talu trethi i lywodraeth Rhufain, ac mae’n honni mai fe ydy’r brenin, y Meseia.”
3Felly dyma Peilat yn dweud wrth Iesu, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”
“Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu.
4Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a’r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.”
5Ond roedden nhw’n benderfynol, “Mae’n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu’r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.”
6“Felly un o Galilea ydy e?” meddai Peilat. 7Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o’r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.)
Iesu o flaen Herod
8Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol. 9Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu’n gwrthod ateb. 10A dyna lle roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo’n ffyrnig.
11Yna dyma Herod a’i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a’i sarhau. Dyma nhw’n ei wisgo mewn clogyn crand, a’i anfon yn ôl at Peilat. 12Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw’n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
Dedfrydu Iesu i farwolaeth
(Mathew 27:15-26; Marc 15:6-15; Ioan 18:39–19:16)
13Dyma Peilat yn galw’r prif offeiriaid a’r arweinwyr eraill, a’r bobl at ei gilydd, 14a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â’r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi’i groesholi o’ch blaen chi i gyd, a dw i’n ei gael yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau. 15Ac mae’n amlwg fod Herod wedi dod i’r un casgliad gan ei fod wedi’i anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw. 16Felly dysga i wers iddo â’r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”#23:16 ei ollwng yn rhydd: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 17, Roedd e’n arfer gollwng un carcharor yn rhydd adeg Gŵyl y Pasg.
18Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda’i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!” 19(Roedd Barabbas yn y carchar am godi terfysg yn Jerwsalem ac am lofruddiaeth.)
20Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd. 21Ond roedden nhw wedi dechrau gweiddi drosodd a throsodd, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”
22Gofynnodd iddyn nhw’r drydedd waith, “Pam? Beth mae wedi’i wneud o’i le? Dydy’r dyn ddim yn euog o unrhyw drosedd sy’n haeddu dedfryd marwolaeth! Felly dysga i wers iddo â’r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
23Ond roedd y dyrfa’n gweiddi’n uwch ac yn uwch, ac yn mynnu fod rhaid i Iesu gael ei groeshoelio, ac yn y diwedd cawson nhw eu ffordd. 24Dyma Peilat yn penderfynu rhoi beth roedden nhw eisiau iddyn nhw. 25Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud.
Y Croeshoelio
(Mathew 27:32-44; Marc 15:21-32; Ioan 19:17-27)
26Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i’r ddinas, a dyma nhw’n ei orfodi i gario croes Iesu. 27Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain. 28Ond dyma Iesu’n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crio drosto i; crïwch drosoch eich hunain a’ch plant. 29Mae’r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae’r gwragedd hynny sydd heb blant wedi’u bendithio’n fawr! – y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’ 30A ‘byddan nhw’n dweud wrth y mynyddoedd,
“Syrthiwch arnon ni!”
ac wrth y bryniau,
“Cuddiwch ni!”’ # cyfeiriad at Hosea 10:8
31Os ydy hyn yn cael ei wneud i’r goeden sy’n llawn dail, beth fydd yn digwydd i’r un sydd wedi marw?”#cyfeiriad at Eseciel 20:46-47
32Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. 33Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‘Y Benglog’, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. 34Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad.#cyfeiriad at Salm 22:18
35Roedd y bobl yno’n gwylio’r cwbl, a’r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a’i wawdio. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo’i achub ei hun, os mai fe ydy’r Meseia mae Duw wedi’i ddewis!”
36Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw’n cynnig gwin sur rhad iddo#gw. Salm 69:21 37ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” 38Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON.
39Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!”
40Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? 41Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.”
42Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.”
43Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
Iesu’n marw
(Mathew 27:45-56; Marc 15:33-41; Ioan 19:28-30)
44Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn. 45Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. 46A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,”#Salm 31:5 ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.
47Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma’n siŵr o fod yn ddieuog!” 48A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw’n troi am adre’n galaru. 49Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd – gan gynnwys y gwragedd oedd wedi’i ddilyn o Galilea.
Claddu Iesu
(Mathew 27:57-61; Marc 15:42-47; Ioan 19:38-42)
50Roedd yna ddyn o’r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o’r Sanhedrin Iddewig, 51ond doedd e ddim wedi cytuno â’r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu. 52Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. 53Tynnodd y corff i lawr a’i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi’i naddu yn y graig – doedd neb erioed wedi’i gladdu yno o’r blaen. 54Roedd hi’n hwyr bnawn dydd Gwener a’r Saboth ar fin dechrau.
55Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod. 56Ar ôl mynd adre i baratoi cymysgedd o berlysiau a pheraroglau i eneinio’r corff, dyma nhw’n gorffwys dros y Saboth, fel mae Cyfraith Moses yn ei ddweud.#Exodus 20:10; Deuteronomium 5:14
Currently Selected:
Luc 23: bnet
Tya elembo
Share
Copy
Olingi kobomba makomi na yo wapi otye elembo na baapareyi na yo nyonso? Kota to mpe Komisa nkombo
© Cymdeithas y Beibl 2023

: