Salmau 1

1
Salm I
1Dedwydd y gwr#1:1 Dedwydd y gwr. Ni raid wrth yw yn y Gymraeg, mwy na’r Hebraeg; mae’r ymadrodd yn ddigon eglur hebddo. yr hwn#1:1 Nid yw yr hwnyn eisieu yn ein hiaith ni: rhedai’r ymadrodd yn well hebddo, fel hyn — Na rodio, &c. na safo, &c. Nad eisteddo, &c. ni rodio yn ol cyngor annuwiolion#1:1 Annuwiolion, ασεβεις, di-addolwyr, y cyfryw ag nad ydynt yn ceisio nac yn gweddio ar Dduw, y rhai hollol ddigrefydd, er, ef allai, yn weddus yn eu hymddygiad allanol., ac ar ffordd pechaduriaid#1:1 pechaduriaid, αμαρτωλοι, troseddwyr amlwg ac ymarferol, megys tyngwyr, rhegwyr, meddwon, godinebwyr, &c. ni safo, ac yn eisteddfod gwatwarwyr#1:1 Gwatwarwyr, gwawdwyr crefydd a duwioldeb; λοιμοι, yn ol y LXX, pests, plâau, dynion adwythig, peryglus fel y plâ. Y mae graddiadau i’w gweled yma: cyngor y diweddi a’r didduw; ffordd yr anfoesol a’r drygionus; ac eisteddfod y rhai a ddielwant ac a ddirmygant ffordd cyfiawnder. nid eisteddo;
2Ond yn nghyfraith Iehova ‘fyddo’ ei hyfrydwch, ac yn ei gyfraith a fyfyrio ddydd a nos:
3Canys#1:3 Canys. Enwir yr achos paham y mae’r gwr a ddarlunir yma yn ddedwydd. Dyma gyfieithiad Junius a Thremelius. bydd fel pren a blaned wrth ffrydiau dyfroedd, yr hwn ei ffrwyth a rydd yn ei bryd, a’i ddalen ni wywa; a’r hyn oll a wnel a lwydda:
4Nid felly yr annuwiolion, ond fel us#1:4 ond fel us. Tebyg mai’r ystyr yw, y bydd yr hyn a wnant fel us, &c. “difethir” eu ffordd, adn. 6. ni ddaw dim lles neu fudd oddi wrthi. yr hwn a chwal y gwynt.
5Am hyny ni saif#1:5 ni saif, &c. Ni all y rhai diweddi, didduw, godi eu pennu yn nydd barn: ac ni chaiff dynion gwarthus eu buchedd fod yn nghymdeithas y cyfiawn. annuwiolion i fynu yn y farn, na phechaduriaid yn nghynnulleidfa’r cyfiawn.
6Canys cydnebydd#1:6 cydnebydd, &c. sef, megys yn gymmeradwy ganddo. Cymmeradwya Duw ffordd, neu ymddygiad, neu fuchedd a gwaith y rhai cyfiawn, sef y duwiol; ac o’i rad haelioni, gwobrwya hwynt: ond daw difrod tragywyddol ar y rhai annuwiol, ar eu holl waith a’n trafferth yn y byd. Ymdrafferthant yn ofer; eu ffordd a ddifethir, a ddaw i ddistryw. Iehova ffordd y cyfiawnion; ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

Šiuo metu pasirinkta:

Salmau 1: TEGID

Paryškinti

Dalintis

Kopijuoti

None

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės