Luc 21

21
Offrwm y Weddw
Mc. 12:41–44
1Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa. 2Yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dau ddarn bychan o bres ynddi, 3ac meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb. 4Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Rhagfynegi Dinistr y Deml
Mth. 24:1–2; Mc. 13:1–2
5Wrth i rywrai sôn am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini gwych a rhoddion cysegredig, meddai ef, 6“Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”
Arwyddion ac Erledigaethau
Mth. 24:3–14; Mc. 13:3–13
7Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?” 8Meddai yntau, “Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac, ‘Y mae'r amser wedi dod yn agos’. Peidiwch â mynd i'w canlyn. 9A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch â chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith.” 10Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. 11Bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef. 12Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i; 13hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu. 14Penderfynwch beidio â phryderu ymlaen llaw ynglŷn â'ch amddiffyniad; 15fe roddaf fi i chwi huodledd, a doethineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud. 16Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch. 17A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i. 18Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen. 19Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.
Rhagfynegi Dinistr Jerwsalem
Mth. 24:15–21; Mc. 13:14–19
20“Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos. 21Y pryd hwnnw, ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pob un sydd yng nghanol y ddinas, aed allan ohoni; a phob un sydd yn y wlad, peidied â mynd i mewn iddi. 22Oherwydd dyddiau dial fydd y rhain, pan fydd pob peth sy'n ysgrifenedig yn cael ei gyflawni. 23Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon. 24Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.
Dyfodiad Mab y Dyn
Mth. 24:29–31; Mc. 13:24–27
25“Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr. 26Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. 27A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr. 28Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu.”
Gwers y Ffigysbren
Mth. 24:32–35; Mc. 13:28–31
29Adroddodd ddameg wrthynt: “Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed. 30Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos. 31Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd. 33Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.
Anogaeth i Fod yn Effro
34“Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth 35fel magl; oherwydd fe ddaw#21:35 Yn ôl darlleniad arall, yn ddisymwth. 35 Fel magl y daw. ar bawb sy'n trigo ar wyneb y ddaear gyfan. 36Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngŵydd Mab y Dyn.”
37Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd. 38Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.#21:38 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir yr adran a welir yn In. 7:53—8:11.

Šiuo metu pasirinkta:

Luc 21: BCND

Paryškinti

Dalintis

Kopijuoti

None

Norite, kad paryškinimai būtų įrašyti visuose jūsų įrenginiuose? Prisijunkite arba registruokitės