Yna y cyfododd Iöb, ac a rwygodd ei fantell, ac a gneifiodd ei ben, ac a warogaethodd, ac a ddywedodd,
“Noeth y daethum o groth fy mam,
A noeth y dychwelaf yno,
IEHOFAH a roes, ac IEHOFAH a ddug ymaith,
Bydded enw IEHOFAH yn fendigedig.”
Yn hyn i gyd ni phechodd Iöb, ac ni phrïodolodd efe ynfydrwydd i Dduw.