Paham y mae’r cenhedloedd
Yn derfysg oll i gyd,
A’r bobloedd yn cynllwynio
Yn ofer ledled byd?
Brenhinoedd, llywodraethwyr,
Yn trefnu byddin gref
Yn erbyn Duw, yr Arglwydd,
A’i fab eneiniog ef.
“Fe ddrylliwn ni eu rhwymau
A’u rhaffau,” yw eu cri;
Ond chwerthin y mae’r Arglwydd,
A’u gwatwar yn eu bri.
Llefara yn ei ddicter,
A’u llenwi oll â braw:
“Gosodais i fy mrenin
Ar fynydd Seion draw.”