Salm 67

67
Cân o ddiolch i Dduw
I’r arweinydd cerdd: cân i gyfeiliant offerynnol. Salm.
1O Dduw, dangos drugaredd aton ni a’n bendithio ni.
Bydd yn garedig aton ni.
Saib
2Wedyn bydd pawb drwy’r byd yn gwybod sut un wyt ti;
bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti’n gallu achub.
3Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
4Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi’n llawen,
am dy fod ti’n barnu’n hollol deg,
ac yn arwain cenhedloedd y ddaear.
Saib
5Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
6Mae’r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni!
O Dduw, ein Duw, dal ati i’n bendithio.
7O Dduw, bendithia ni!
Wedyn bydd pobl drwy’r byd i gyd
yn dy addoli.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Salm 67: bnet

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പകർത്തുക

താരതമ്യം

പങ്ക് വെക്കു

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക