Ioan 3
3
Iesu a Nicodemus
1Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o'r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. 2Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti'n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” 3Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd#3:3 Neu, oddi uchod. Felly hefyd yn adn. 7. ni all weld teyrnas Dduw.” 4Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” 5Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. 6Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd, cnawd yw, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd, ysbryd yw. 7Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae'n rhaid eich geni chwi o'r newydd.’ 8Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd.”#3:8 Yr un gair Groeg sydd wedi ei gyfieithu gwynt ar ddechrau adn. 8 ac Ysbryd ar ei diwedd. Perthyn y ddau ystyr i'r gair. 9Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?” 10Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn? 11Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth. 12Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau'r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau'r nef? 13Nid oes neb wedi esgyn i'r nef ond yr un a ddisgynnodd o'r nef, Mab y Dyn#3:13 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir yr hwn sydd yn y nef.. 14Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae'n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, 15er mwyn i bob un sy'n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef.”
16Do#3:16 Neu, ynddo ef. “Do,…, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. 17Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef. 18Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw. 19A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg. 20Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu. 21Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.#3:21 Neu,… cyflawni”.
Rhaid iddo Ef Gynyddu ac i Minnau Leihau
22Ar ôl hyn aeth Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea, a bu'n aros yno gyda hwy ac yn bedyddio. 23Yr oedd Ioan yntau yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, am fod digonedd o ddŵr yno; ac yr oedd pobl yn dod yno ac yn cael eu bedyddio. 24Nid oedd Ioan eto wedi ei garcharu. 25Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew#3:25 Yn ôl darlleniad arall, Iddewon. ynghylch defod glanhad. 26Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.” 27Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef. 28Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’ 29Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder. 30Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.”
Yr Hwn sy'n Dod o'r Nef
31Y mae'r hwn sy'n dod oddi uchod goruwch pawb; y mae'r hwn sydd o'r ddaear yn ddaearol ei anian ac yn ddaearol ei iaith. Y mae'r sawl sy'n dod o'r nef goruwch pawb; 32y mae'n tystiolaethu am yr hyn a welodd ac a glywodd, ond nid yw neb yn derbyn ei dystiolaeth. 33Y mae'r sawl sydd yn derbyn ei dystiolaeth yn rhoi ei sêl ar fod Duw yn eirwir. 34Oherwydd y mae'r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw; nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi'r Ysbryd. 35Y mae'r Tad yn caru'r Mab, ac y mae wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef. 36Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
सध्या निवडलेले:
Ioan 3: BCND
ठळक
सामायिक करा
कॉपी करा
तुमचे हायलाइट तुमच्या सर्व डिव्हाइसेसवर सेव्ह करायचे आहेत? साइन अप किंवा साइन इन
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004