YouVersion လိုဂို
ရွာရန္ အိုင္ကြန္

Psalmae 8

8
Psal. 8.
1ARglwydd Iōr, mor ardderchawg
yw d’enw rhawg yn holl-fyd!
Rhwn a roddaist (dann warant)
d’ogoniant vwch nefoedd-fŷd.
2O enau rhai bāch sugno
peraist it gō yn nerthudd
Achos dy gās: i ostegu
y gelyn dū, a’r dialudd.
3Pann edrychwyf ar nefoedd
rhai ydoedd waith dy fyssedd:
Sef, y lloer, a’r sēr (medraist)
a ordeiniaist o’r dechredd.
4Pa bēth yw dŷn (gwael-ddyn gau)
it iw goffāu ai wilied?
A māb dŷn (dayaryn lēf)
i ti ag ēf ymweled?
5Gwnaethost ef ychydig īs
gōr-is yr Angylion:
Gogoniant a phrydferthwch
rhoist i ddŷn llŵch yn gōron.
6Ar weithredoedd dy ddwylo
rhoist fo i arglwyddiaethu:
Gosodaist bōb pēth ar a wnaed
dann ei draed i’w mēddu.
7Defed, ychen, oll gaid,
Maes-amifeiliaid llown-fyd:
8Hediaid awyr, a phŷsc mōr
Sy’n tramwy dyfn-fōr hefyd.
9O Arglwydd eyn Iōr enwawg
mor ardderchawg ydwyd!
A maint ardderchowgrwydd dŵ
yw d’enw yn yr holl-fŷd!

လက္ရွိေရြးခ်ယ္ထားမွု

Psalmae 8: SC1603

အေရာင္မွတ္ခ်က္

မၽွေဝရန္

ကူးယူ

None

မိမိစက္ကိရိယာအားလုံးတြင္ မိမိအေရာင္ခ်ယ္ေသာအရာမ်ားကို သိမ္းဆည္းထားလိုပါသလား။ စာရင္းသြင္းပါ (သို႔) အေကာင့္ဝင္လိုက္ပါ