Salm 37
37
Trystioâr ARGLWYDD a throi cefn ar ddrwg
Salm Dafydd.
1Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;
paid bod yn genfigennus ohonyn nhw.
2Byddan nhwân gwywoân ddigon sydyn, fel glaswellt,
ac yn diflannu fel egin gwan.
3Trystiaâr ARGLWYDD a gwna beth syân dda.
Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb.
4Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser,
a bydd eân rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau.
5Rho dy hun yn nwyloâr ARGLWYDD
aâi drystio fe; bydd eân gweithredu ar dy ran di.
6Bydd eân achub dy gam di o flaen pawb.
Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn
mor amlwg Ăąâr haul ganol dydd.
7Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD.
Paid digio pan wyt tiân gweld pobl eraill yn llwyddo
wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.
8Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer.
Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd!
9Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan,
ond bydd y rhai syân gobeithio yn yr ARGLWYDD
yn meddiannuâr tir!
10Fydd y rhai drwg ddim iâw gweld yn unman mewn ychydig.
Byddiân edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.
11Y rhai syân cael eu cam-drin fydd yn meddiannuâr tir,
a byddan nhwân mwynhau heddwch a llwyddiant.
12Maeâr rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai syân byw yn iawn,
ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwyllt.
13Ond maeâr ARGLWYDD yn chwerthin am eu pennau;
mae eân gwybod fod eu tro nhwân dod!
14Maeâr rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau ac yn plygu eu bwĂąu,
i daro i lawr y rhai syân cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen,
ac i ladd y rhai syân bywân gywir.
15Ond byddan nhwân cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain,
a bydd eu bwĂąu yn cael eu torri!
16Maeâr ychydig sydd gan berson syân byw yn iawn
yn well naâr holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg.
17Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym,
ond maeâr ARGLWYDD yn cynnal y rhai syân byw yn iawn.
18Maeâr ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd;
mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.
19Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan fydd hiân ddyddiau anodd;
pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon iâw fwyta.
20Ond bydd y rhai drwg yn marw.
Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,
fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.
21Mae pobl ddrwg yn benthyg heb daluâr ddyled yn ĂŽl;
ond maeâr rhai syân byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.
22Bydd y bobl mae Duwân eu bendithio yn meddiannuâr tir,
ond y rhai maeân eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.
23Maeâr ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant
yr un syân byw iâw blesio.
24Bydd yn baglu weithiau,
ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,
achos maeâr ARGLWYDD yn gafael yn ei law.
25RĂŽn iân ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.
Dw i erioed wedi gweld rhywun syân byw yn iawn
yn cael ei siomi gan Dduw,
naâi blant yn gorfod chwilio am fwyd.
26Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill,
ac mae ei blant yn cael eu bendithio.
27Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth syân dda,
a byddiân saff am byth.
28Maeâr ARGLWYDD yn caru beth syân gyfiawn,
a dydy e byth yn siomiâr rhai syân ffyddlon iddo.
Maen nhwân saff bob amser;
ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
29Bydd y rhai syân byw yn iawn yn meddiannuâr tir,
ac yn aros yno am byth.
30Mae pobl dduwiol yn dweud pethau doeth,
ac yn hybu cyfiawnder.
31Cyfraith Duw syân rheoli eu ffordd o feddwl,
a dĆ·n nhw byth yn llithro.
32Maeâr rhai drwg yn disgwyl am gyfle
i ymosod ar y sawl syân byw yn iawn,
yn y gobaith oâi ladd;
33ond fydd yr ARGLWYDD
ddim yn gadael iddo syrthio iâw dwylo;
fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
34Disgwyl am yr ARGLWYDD!
Dos y ffordd mae eân dweud
a bydd eân rhoiâr gallu i ti feddiannuâr tir.
Byddiân gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
35Dw i wedi gweld pobl ddrwg, greulon,
yn llwyddo ac ymledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin.
36Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu!
RĂŽn iân chwilio, ond doedd dim sĂŽn amdanyn nhw.
37Edrych ar y rhai gonest! Nodaâr rhai syân bywân gywir!
Mae dyfodol iâr rhai syân hybu heddwch.
38Ond bydd y rhai syân troseddu yn cael eu dinistrioân llwyr.
Does dim dyfodol iâr rhai drwg.
39Maeâr ARGLWYDD yn achub y rhai syân bywân gywir,
ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion.
40Maeâr ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub;
maeân eu hachub o afael pobl ddrwg,
am eu bod wedi troi ato iâw hamddiffyn.
Markert nÄ:
Salm 37: bnet
Marker
Kopier
Sammenlign
Del
Vil du ha hÞydepunktene lagret pÄ alle enhetene dine? Registrer deg eller logg pÄ
© Cymdeithas y Beibl 2023