Salm 54
54
Gweddi am amddiffyn rhag y gelyn
I’r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm gan Dafydd, pan aeth pobl Siff at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd yn cuddio gyda ni.”#1 Samuel 23
1O Dduw, tyrd ac achub fi!
Amddiffyn fi gyda dy holl nerth.
2O Dduw, gwrando ar fy ngweddi!
Clyw beth dw i’n ddweud.
3Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i.
Mae dynion creulon am fy lladd i.
Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw.
Saib
4Ond Duw ydy’r un sy’n fy helpu i.
Yr ARGLWYDD sy’n fy nghadw i’n fyw.
5Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn!
Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud.
6Wedyn bydda i’n dod ag offrwm gwirfoddol i’w aberthu i ti.
Bydda i’n moli dy enw di, ARGLWYDD, am dy fod mor dda!
7Ie, rwyt yn fy achub o’m holl drafferthion;
dw i’n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu!
Markert nå:
Salm 54: bnet
Marker
Kopier
Sammenlign
Del
Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på
© Cymdeithas y Beibl 2023