Psalmau 13

13
Y Psalm. XIII. Englyn Proest Cadwynodl.
1Pa hyd, O Arglwydh, pa ham
I’m anghofiyd a ffryd ffrom?
Ai bythawl dragwydhawl gam?
Pa hyd, Iôr, rhagor rhagom
D’wyneb a gudhi dinam?
Iôr, dy ras dyro drosom.
2Pa hyd, mae hefyd yn hir,
Ymgynghoraf, Naf nifer,
A’m calon, waywdôn yn wir?
Ai hyd y dydh ni bydh bêr?
Pa hyd ennyd bydh anwir
Uwch fy mhen ir nen, fy Nêr.
3Edrych, gwrandaw draw, Iôr drud,
A llugern bydh i’m llygad;
Rhag i’m gysgu, methu mud,
Yn hûn angau brau a brad:
4Rhag i’m gelyn, gwagdhyn goel,
Dd’wedyd, Cefais fantais fael;
Llawen gelyn melyn moel
O llithraf ir gwaethaf gael.
5I’th drugaredh, fawredh faeth,
Nid ymdhiriaid enaid annoeth;
A’m holl galon ffrwythlon, ffraeth,
Fydh lawen, dha awen dhoeth;
Wyd Iôr, dy iechydwriaeth
O caf, mae ’n orau cyfoeth.
Myfi i’m Duw, Hoywdhuw, hynt,
A ganaf a gogoniant;
E wnaeth im’ helaeth helynt,
Cywir dhawn, ac urdhuniant.

Markert nå:

Psalmau 13: SC1595

Marker

Del

Kopier

None

Vil du ha høydepunktene lagret på alle enhetene dine? Registrer deg eller logg på