A dug ef i Gaersalem, a gosododd ef ar ganllaw’r deml, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma; canys y mae’n ysgrifenedig, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat i’th gadw , a hefyd ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.” Ac atebodd yr Iesu iddo, “Fe ddywedwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.”