Mathew 3
3
Gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr
1Tua’r adeg yma daeth Ioan Fedyddiwr i’r amlwg yn pregethu yn anialdir Jwdea. 2Dyma oedd ei neges, “Newidiwch eich ffordd o fyw. Mae teyrnasiad y Nefoedd wedi agosáu.”
3Dyma’r gŵr y soniodd y proffwyd Eseia amdano pan ddywedodd:
“Llais un yn galw mewn tir anial,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd;
Gwnewch lwybrau unionsyth ar ei gyfer’.”
4Dillad o flew camel oedd gan Ioan, a gwregys o groen am ei ganol, a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5A’r adeg honno roedd pobl Jerwsalem a Jwdea i gyd, a’r holl wlad o gwmpas yr Iorddonen, yn dylifo allan ato, 6ac yntau’n eu bedyddio yn yr Iorddonen wrth iddyn nhw gyffesu’u pechodau.
7Pan welodd ef fod llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio, meddai wrthyn nhw: “Yr epil nadroedd fel yr ydych, pwy a’ch rhybuddiodd chi i ffoi rhag y dial sy’n dod arnoch? 8Gwnewch rywbeth i brofi eich bod wedi newid eich ffordd o fyw. 9A pheidiwch chi â meddwl y gwnaiff hi’r tro i ddweud wrthych eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad.’ Clywch! fe allai Duw godi plant i Abraham o’r cerrig hyn! 10Mae’r fwyell wedi’i gosod yn barod wrth wraidd y coed; ac fe dorrir i lawr bob coeden heb ddwyn ffrwyth da a’i thaflu i’r tân. 11Â dŵr rydw i’n eich bedyddio chi, yn arwydd eich bod chi’n newid eich ffordd o fyw; ond am yr hwn sy’n dod ar f’ôl i, mae ef yn gryfach na fi, ’dydw i ddim digon da i dynnu ei sandalau; fe fydd ef yn eich bedyddio â’r Ysbryd Glân ac â thân. 12Mae’i wyntyll yn ei law i glirio’n lân ei lawr dyrnu, gan gasglu’r gwenith i’w ysgubor a llosgi’r us â thân na all neb ei ddiffodd.”
Bedyddio’r Iesu
13Ar hynny, dyma’r Iesu’n dod o Galilea at yr Iorddonen, i gael ei fedyddio gan Ioan. 14Fe geisiodd Ioan ei rwystro gan ddweud, “Fi ddylai gael fy medyddio gennyt ti; wyt ti’n dod ataf fi?”
15Atebodd yr Iesu, “Gad lonydd i bethau yn awr; fel hyn mae’n weddus inni wneud popeth fel y mae Duw’n dymuno.” Felly fe gytunodd Ioan.
16Wedi ei fedyddio, daeth yr Iesu’n syth allan o’r dŵr, a’r foment honno dyma’r nefoedd yn agor ac yntau’n gweld Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn gorffwys arno. 17A dyna lais o’r nefoedd yn dweud, “Dyma fy Mab, fy anwylyd, sydd wrth fy modd.”
Obecnie wybrane:
Mathew 3: FfN
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971