Ioan 17

17
1Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi codi ei lygaid tua’r nefoedd, dywedodd: Dad, y mae’r awr wedi dyfod. Gogonedda dy fab, fel y gogoneddo dy fab dithau, 2megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai fywyd tragwyddol iddynt. 3Hyn ydyw’r bywyd tragwyddol, eu bod yn d’adnabod ti yr unig wir Dduw a’r hwn a anfonaist, Iesu’r Eneiniog. 4Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear, drwy gwblhau’r gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5Ac yn awr gogonedda dithau finnau, dad, gyda thi â’r gogoniant a oedd gennyf gyda thi cyn bod y byd. 6Mi a amlygais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd. Eiddot ti oeddynt, a rhoddaist hwy i mi, ac y maent wedi cadw dy air. 7Yn awr, gwyddant mai oddiwrthyt ti y mae’r cwbl a roddaist i mi, 8gan fy mod wedi rhoddi iddynt hwy’r geiriau a roddaist i mi, a hwythau wedi eu derbyn a gwybod yn wir mai oddiwrthyt ti y deuthum allan a chredu mai ti a’m hanfonodd. 9Yr wyf yn gofyn yn eu hachos hwy; nid yn achos y byd yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai a roddaist i mi, canys ti piau hwy, 10a’r eiddof i oll, yr eiddot ti ydyw, a’r eiddot ti, yr eiddof i, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt. 11A mwyach nid wyf yn y byd, ond y maent hwy yn y byd, ac yr wyf i’n dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwynt yn d’ enw di a roddaist i mi, fel y byddont yn un fel ninnau. 12Pan oeddwn gyda hwynt, yr oeddwn i’n eu cadw yn dy enw a roddaist i mi, a gwarchedwais hwy, ac nid aeth yr un ohonynt ar goll, ond mab y golled, er mwyn cyflawni’r Ysgrythur. 13Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti, a hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn y byd fel y bo ganddynt fy llawenydd i wedi ei gyflawni ynddynt hwy eu hunain. 14Mi a roddais iddynt d’air di, a chashaodd y byd hwy, am nad ŷnt o’r byd, fel nad wyf innau o’r byd. 15Nid wyf yn gofyn iti eu symud o’r byd, ond iti eu cadw hwynt o’r drwg. 16O’r byd nid ydynt fel nad wyf innau o’r byd. 17Santeiddia hwy â’r gwirionedd. D’air di gwirionedd yw. 18Fel y’m hanfonaist i i’r byd, felly yr anfonais innau hwynt i’r byd; 19ac er eu mwyn hwynt yr wyf i’n fy santeiddio fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu santeiddio â’r gwirionedd. 20“Ond nid yn achos y rhain yn unig yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai sy’n credu ynof i oherwydd eu gair hwy, 21fel y byddont oll yn un, fel yr wyt ti, dad, ynof i a minnau ynot tithau, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni, fel y credo’r byd mai ti a’m hanfonodd. 22Ac yr wyf innau wedi rhoddi’r gogoniant, a roddaist i mi, iddynt hwy, fel y byddont yn un megis yr ydym ninnau’n un, 23myfi ynddynt hwy, a thithau ynof innau, fel y byddont wedi eu perffeithio’n un, fel y gwypo’r byd mai ti a’m hanfonodd, a’th fod wedi eu caru hwynt fel y ceraist fi. 24Dad, yr hyn a roddaist i mi, yr wyf yn dymuno, lle yr wyf i, iddynt hwythau hefyd fod gyda mi, fel y gwelont fy ngogoniant i a roddaist i mi am iti fy ngharu i cyn sylfaenu’r byd. 25Dad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi, ond adnabûm i di, ac adnabu’r rhain mai ti a’m hanfonodd. 26A hysbysais iddynt dy enw di, ac mi a’i hysbysaf eto, fel y bo’r cariad y’m ceraist i ag ef ynddynt hwy, a minnau ynddynt.”

Obecnie wybrane:

Ioan 17: CUG

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj