Ioan 21
21
1Ar ôl hyn, fe’i dangosodd Iesu ei hun drachefn i’r disgyblion, ar fôr Tiberias, ac a fel hyn y’i dangosodd ei hun. 2Yr oeddynt ynghŷd — Simon Pedr a Thomas a elwir Gefell, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o’i ddisgyblion. 3Medd Simon Pedr wrthynt: “Yr wyf yn myned i bysgota.” Meddant hwy wrtho: “Yr ydym ninnau yn dyfod gyda thi.” Aethant allan a myned i mewn i’r llong, a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4Ond â hi’n awr yn dyddio, safodd Iesu ar y lan, ond eto, ni wyddai’r disgyblion mai Iesu oedd. 5Medd Iesu wrthynt: “Fechgyn, onid oes gennych ddim i’w fwyta?” Atebasant iddo: “Nac oes.” 6Ac medd yntau wrthynt: “Bwriwch y rhwyd ar ochr ddeheu’r llong, a chwi gewch.” Felly bwriasant, ac nid oedd ganddynt nerth i’w thynnu gan nifer y pysgod. 7Felly dywed y disgybl a garai’r Iesu wrth Bedr: “Yr Arglwydd yw.” Felly, pan glywodd Simon Pedr mai’r Arglwydd oedd, gwregysodd ei wisg uchaf amdano (canys yn ei grys yr oedd), ac ymdaflodd i’r môr, 8ond daeth y disgyblion eraill yn y llong (oherwydd nid oeddynt ymhell o’r lan, dim ond rhyw ddeucan cufydd) gan lusgo’r rhwyd o bysgod. 9Ac wedi dyfod i’r lan, y maent yn gweled tân glo ar y ddaear, a phryd o bysgod arno a bara. 10Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch gynneu.” 11Aeth Simon i’r llong, a thynnodd y rhwyd i’r lan yn llawn o bysgod mawr, cant a thri ar ddeg a deugain ohonynt, ac er cynifer oeddynt, ni rwygodd y rhwyd. 12Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch at eich brecwast.” Ni feiddiodd yr un o’r disgyblion ofyn iddo “Pwy wyt ti?” a hwythau’n gwybod mai’r Arglwydd ydoedd. 13A dyma’r Iesu’n dyfod ac yn cymryd y bara ac yn ei roddi iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14Hwn oedd y trydydd tro i Iesu ymddangos i’r disgyblion wedi cyfodi o feirw.
15Felly ar ôl iddynt gael eu brecwast, medd yr Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd. Ti wyddost fy mod yn dy garu di.” Medd ef wrtho: “Portha fy ŵyn i.” 16Medd ef wrtho eilwaith drachefn: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, ti wyddost fy mod yn dy garu.” Medd ef wrtho: “Bydd yn fugail ar fy nefaid i.” 17Medd ef wrtho y trydydd tro: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Gofidiodd Pedr iddo ddywedyd wrtho y trydydd tro, “A wyt ti’n fy ngharu i?” ac medd ef wrtho: “Arglwydd, gwyddost ti bopeth, gwyddost ti fy mod yn dy garu di.” Medd Iesu wrtho: “Portha fy nefaid i. 18Ar fy ngwir meddaf i ti, pan oeddit iau, ti a’th wregysit dy hun, a rhodit oddiamgylch i ba le bynnag y mynnit; ond pan ei ’n hen, estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa di ac a’th ddwg i’r lle nis mynnych.” 19Hyn a ddywedodd i arwyddocau â pha fath o farw y gogoneddai Dduw. Ac wedi dywedyd hyn, medd ef wrtho: “Canlyn fi.” 20Ac y mae Pedr yn troi yn ei ôl ac yn gweled y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, (hwnnw hefyd a bwysodd yn ôl ar ei fron ef ar y swper, ac a ddywedodd: “Arglwydd, pwy ydyw dy fradychwr?”) 21Felly pan welodd Pedr hwn, medd ef wrth yr Iesu: “Ond, Arglwydd, beth am hwn?” 22Medd yr Iesu wrtho: “Os mynnai i iddo ef aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny iti? Canlyn di fi.” 23Felly aeth y gair hwn allan ymysg y brodyr, na byddai i’r disgybl hwnnw farw. Ond ni ddywedodd yr Iesu wrtho: “Ni bydd farw,” ond “Os mynnaf iddo aros oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?” 24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystio am y pethau hyn ac a ysgrifennodd y pethau hyn, a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth ef. 25Ond y mae llawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, a phed ysgrifennid y rhain bob yn un, nid wyf yn tybio y cynwysai’r byd yn grwn y llyfrau a ysgrifennid.
Obecnie wybrane:
Ioan 21: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945