Luc 1
1
1Gan ddarfod i lawer geisio cyfansoddi hanes am y pethau sydd wedi eu cyflawni yn ein plith, 2fel y traddodwyd hwynt i ni gan y rhai oedd o’r dechrau’n llygad-dystion ac a fu’n weinidogion y gair, 3bu wiw gennyf innau, wedi olrhain o’r cychwyn bob peth yn fanwl, eu hysgrifennu i ti mewn trefn, O ardderchocaf Theophilus, 4modd y cait wybod sicrwydd am y materion y’th hyfforddwyd ynddynt.
5Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Sacharïas o ddosbarth Abïa, ac iddo wraig o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6Yr oeddent yn gyfiawn ill dau ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7Ac nid oedd iddynt blentyn, canys yr oedd Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddent ill dau wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.
8A digwyddodd, fel yr oedd ef yn gweini swydd offeiriad yn nhro ei ddosbarth gerbron Duw, 9ddyfod i’w ran, yn ôl arfer yr offeiriadaeth, fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd i arogldarthu, 10a holl liaws y bobl oedd yn gweddïo tu allan ar awr yr arogldarth. 11Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogldarth. 12A chyffröwyd Sacharïas pan welodd, ac ofn a ddaeth arno. 13A dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sacharïas, canys gwrandawyd dy weddi, a dwg dy wraig Elisabeth fab i ti, a gelwi ei enw ef Ioan; 14a bydd llawenydd i ti a gorfoledd; a llawer a lawenha am ei eni ef. 15Canys mawr fydd yng ngolwg yr Arglwydd, a gwin na diod gadarn nid yf, a llenwir ef o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam; 16a llawer o feibion Israel a dry ef at yr Arglwydd eu Duw; 17ac â rhagddo o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Elïas, i droi calonnau tadau at eu plant, a rhai anufudd i fyw yn noethineb y cyfiawn, i baratoi i’r Arglwydd bobl ddarparedig.” 18A dywedodd Sacharïas wrth yr angel, “Pa fodd y gwybyddaf hyn? canys yr wyf i’n hen ŵr, a’m gwraig wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.” 19Atebodd yr angel iddo, “Myfi yw Gabriel, sy’n sefyll gerbron Duw, ac fe’m danfonwyd i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi i ti hyn o newyddion da. 20Ac wele, ti fyddi fud, a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist fy ngeiriau, y rhai er hynny a gyflawnir yn eu hamser.” 21Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sacharïas, a rhyfeddent ei fod yn oedi yn y cysegr. 22Ac wedi iddo ddyfod allan ni allai lefaru wrthynt, a deallasant ei fod wedi gweled gweledigaeth yn y cysegr; ac yr oedd ef yn amneidio arnynt, a pharhau yn fud. 23Ac yna, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, aeth adref. 24Ar ôl y dyddiau hyn beichiogodd Elisabeth ei wraig ef, ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, 25“Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd â mi yn y dyddiau y gwelodd yn dda dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.”
26Ac yn y chweched mis danfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i ddinas yng Ngalilea o’r enw Nasareth, 27at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr o’r enw Ioseff o dŷ Ddafydd, ac enw’r forwyn oedd Mair. 28Ac aeth i mewn ati, a dywedodd, “Henffych well, y gyflawn o ras! Yr Arglwydd a fo gyda thi!” 29Hithau a gyffrowyd drwyddi wrth yr ymadrodd; a meddyliai pa ryw gyfarch a allai hwn fod. 30A dywedodd yr angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair; canys cefaist ffafr gyda Duw. 31Ac wele, bydd i ti feichiogi ac esgor ar fab, a galw ei enw Iesu. 32Hwn a fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef, a rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, 33a theyrnasa ar dŷ Iacob yn oes oesoedd, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” 34A dywedodd Mair wrth yr angel, “Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?” 35Ac atebodd yr angel iddi, “Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a gysgoda drosot; ac am hynny y plentyn a elwir yn santaidd, yn Fab Duw. 36Ac wele, Elisabeth dy gares, hithau hefyd a feichiogodd, ar fab yn ei henaint, a hwn yw’r chweched mis iddi hi a elwid yn amhlantadwy; 37canys ni bydd amhosibl gyda Duw un dim.” 38A dywedodd Mair, “Wele gaethferch yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air.” Ac aeth yr angel ymaith oddi wrthi.
39A chododd Mair yn y dyddiau hynny, a chyrchu i’r mynydd-dir ar frys i ddinas yn Iwda; 40ac aeth i mewn i dŷ Sacharïas, a chyfarch Elisabeth. 41A darfu, pan glywodd Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r baban lamu yn ei chroth; a llanwyd Elisabeth o’r Ysbryd Glân, 42a llefodd â bloedd uchel, a dywedyd, “Bendigedig dydi ymhlith gwragedd, a bendigedig ffrwyth dy groth! 43Ac o ba le y daeth hyn i mi, ddyfod mam fy Arglwydd ataf? 44Canys, wele, fel y daeth sŵn dy gyfarchiad i’m clustiau y llamodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth. 45A gwyn ei byd yr hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.”
46A dywedodd Mair,
“Mawryga fy enaid yr Arglwydd,
47a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw fy Ngheidwad;
48Oblegid edrychodd ar iselder ei gaethferch.
Canys, wele, o hyn allan gwynfydedig
y geilw’r holl genedlaethau fi.
49Oblegid gwnaeth y Cadarn i mi bethau mawr,
A santaidd yw ei enw ef,
50 A’i drugaredd hyd genedlaethau a chenedlaethau
I’r rhai a’i hofna ef.
51Gwnaeth rymuster â’i fraich,
Gwasgarodd feilchion ym mryd eu calon;
52 Dymchwelodd lywiawdwyr o’u gorseddau,
a dyrchafodd rai isel,
53 Rhai newynog a lanwodd â phethau da, a
chyfoethogion a yrrodd ymaith yn weigion.
54 Cynorthwyodd ei was Israel,
gan gofio trugaredd,
55 Megis y llefarodd wrth ein tadau,
I Abraham a’i had yn dragywydd.”
56Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, a dychwelodd adref.
57Ac i Elisabeth cyflawnwyd yr amser iddi i esgor, a ganwyd, iddi fab. 58A chlywodd ei chymdogion a’i cheraint helaethu o’r Arglwydd ei drugaredd iddi, a chydlawenychent â hi. 59Ac ar yr wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei alw ar enw ei dad, yn Sacharïas. 60Ac atebodd ei fam a dywedodd, “Nage; eithr gelwir ef Ioan.” 61Dywedasant wrthi, “Nid oes neb o’th dylwyth di a elwir ar yr enw hwn.” 62Ac amneidient ar ei dad i ofyn pa beth a fynnai ei alw. 63Ceisiodd yntau lechen, ac ysgrifennydd, “Ioan yw ei enw.” A rhyfeddasant oll. 64Ac agorwyd ei enau yn y fan, a’i dafod, a dechreuodd lefaru gan fendithio Duw. 65A daeth braw ar bawb a oedd yn trigo o’u hamgylch, ac yn holl fynydd-dir Iwdea yr oedd trafod ar yr holl bethau hyn, 66a phawb a’u clywodd a’u gosododd yn eu calon, gan ddywedyd, “Beth, tybed, fydd y plentyn hwn?” Canys yn wir llaw’r Arglwydd oedd gydag ef. 67A Sacharïas ei dad ef a lanwyd o’r Ysbryd Glân, a phroffwydodd gan ddywedyd,
68 “Bendigedig fo Arglwydd Dduw Israel,
canys ymwelodd â hwy, a gwnaeth ymwared i’w bobl,
69a dyrchafodd gorn iachawdwriaeth inni
yn nhŷ Dafydd ei was,
70megis y llefarodd trwy enau ei santaidd broffwydi erioed, —
71 iachawdwriaeth rhag ein gelynion ac o law ein holl gaseion,
72gwneuthur trugaredd â’n tadau,
a chofio’i gyfamod santaidd,
73 llw a dyngodd wrth Abraham ein tad
74y rhoddai inni, wedi ein rhyddhau o law ein gelynion, yn ddiofn
75ei wasanaethu ef mewn santeiddrwydd a chyfiawnder
ger ei fron ef dros ein holl ddyddiau.
76A thithau, blentyn, proffwyd y goruchaf y’th elwir;
canys cerddi o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef,
77i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl
ym maddeuant eu pechodau,
78trwy dosturiaethau trugaredd ein Duw,
ac ynddynt yr ymwêl â ni wawr oddi uchod,
79 i lewyrchu i’r rhai a eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau,
i gyfeirio’n traed i ffordd tangnefedd.”
80A’r plentyn a dyfai ac a gryfhâi yn yr ysbryd, a bu yn y diffeithleoedd hyd ddydd ei ymddangos i Israel.
Obecnie wybrane:
Luc 1: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fpl.png&w=128&q=75)
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

:
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)