Luc RHAGAIR
RHAGAIR
Wedi iddynt orffen cyfieithu Efengyl Marc yn 1921 aeth pwyllgor Bangor ymlaen o dan lywyddiaeth y diweddar Syr John Morris-Jones i gyfieithu Mathew a Luc. Troswyd dwy bennod ar hugain o’r efengyl gyntaf, a saith bennod o’r drydedd efengyl. Eithr wedi marw Syr John safodd, y gwaith, a gofynnwyd i ni, ddau o aelodau’r pwyllgor a gyfieithodd Efengyl Marc, ail-gydio yn y gwaith a’i orffen cyn gynted ag y byddai modd. Hyderwn y gellir cyhoeddi Efengyl Mathew cyn bo hir.
Aethpwyd trwy’r saith bennod gyntaf yn ofalus, ac nis gadawyd heb gyfnewid peth arnynt hwnt ac yma. Ni ein dau sy’n gyfrifol am y rhelyw o’r cyfieithiad. Fe welir na cheisiasom gysoni Luc â Marc yn fanwl yn yr adrannau hynny sy’n gyffredin i’r ddwy efengyl. Ond wrth gyfieithu Efengylau Luc a Mathew cymharwyd hwy’n ofalus er cael y cysondeb a ddylai fod rhwng yr efengylau cyfolwg, ac er dangos hefyd y mân wahaniaethau sydd rhyngddynt.
Hyderwn y ceir cyfle, cyn i’r tair efengyl ymddangos gyda’i gilydd, i gyfnewid cymaint ag a fydd yn angenrheidiol ar yr efengyl hynaf er mwyn ei dwyn i gydymffurfio â’r ddwy arall.
Testun Nestle a ddilynwyd wrth gyfieithu.
D. Emrys Evans.
Ifor Williams.
Medi. 1943.
Yn ôl Luc
Obecnie wybrane:
Luc RHAGAIR: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fpl.png&w=128&q=75)
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945
Luc RHAGAIR
RHAGAIR
Wedi iddynt orffen cyfieithu Efengyl Marc yn 1921 aeth pwyllgor Bangor ymlaen o dan lywyddiaeth y diweddar Syr John Morris-Jones i gyfieithu Mathew a Luc. Troswyd dwy bennod ar hugain o’r efengyl gyntaf, a saith bennod o’r drydedd efengyl. Eithr wedi marw Syr John safodd, y gwaith, a gofynnwyd i ni, ddau o aelodau’r pwyllgor a gyfieithodd Efengyl Marc, ail-gydio yn y gwaith a’i orffen cyn gynted ag y byddai modd. Hyderwn y gellir cyhoeddi Efengyl Mathew cyn bo hir.
Aethpwyd trwy’r saith bennod gyntaf yn ofalus, ac nis gadawyd heb gyfnewid peth arnynt hwnt ac yma. Ni ein dau sy’n gyfrifol am y rhelyw o’r cyfieithiad. Fe welir na cheisiasom gysoni Luc â Marc yn fanwl yn yr adrannau hynny sy’n gyffredin i’r ddwy efengyl. Ond wrth gyfieithu Efengylau Luc a Mathew cymharwyd hwy’n ofalus er cael y cysondeb a ddylai fod rhwng yr efengylau cyfolwg, ac er dangos hefyd y mân wahaniaethau sydd rhyngddynt.
Hyderwn y ceir cyfle, cyn i’r tair efengyl ymddangos gyda’i gilydd, i gyfnewid cymaint ag a fydd yn angenrheidiol ar yr efengyl hynaf er mwyn ei dwyn i gydymffurfio â’r ddwy arall.
Testun Nestle a ddilynwyd wrth gyfieithu.
D. Emrys Evans.
Ifor Williams.
Medi. 1943.
Yn ôl Luc
Obecnie wybrane:
:
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)