Marc 15
15
1Ac yna’r bore, wedi i’r archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, sef yr holl Sanhedrin, ddarparu cyngor, rhwymasant yr Iesu, a dygasant ef ymaith, a’i draddodi i Bilat. 2A gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw ‘Brenin yr Iddewon’?” Atebodd yntau a dywed wrtho, “Ti sy’n dywedyd.” 3A chyhuddai’r archoffeiriaid ef o lawer o bethau. 4A Philat drachefn a ofynnai iddo, gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Gwêl o ba faint o bethau y’th gyhuddant.” 5Ond yr Iesu nid atebodd mwyach ddim, nes rhyfeddu o Bilat. 6Ac ar bryd gŵyl fe ryddhâi iddynt un carcharor a ddeisyfent ganddo. 7Ac yr oedd un a elwid Barabbas yn rhwym gyda’r gwrthryfelwyr — rhai a wnaethai lofruddiaeth yn y gwrthryfel. 8A daeth y dorf i fyny, a dechreu gofyn iddo wneuthur fel yr arferai iddynt. 9Ac atebodd Pilat hwynt gan ddywedyd, “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” 10Canys fe wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef. 11Ond cynhyrfodd yr archoffeiriaid y dorf, er cael ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. 12Ond atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â’r un a elwch yn Frenin yr Iddewon?” 13A thrachefn gwaeddasant hwythau, “Croeshoelia ef.” 14Ond dywedai Pilat wrthynt, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Hwythau mwyfwy y gwaeddasant, “Croeshoelia ef.” 15A Philat yn dymuno rhyngu bodd i’r dyrfa, a ryddhaodd iddynt Farabbas, ac a draddododd yr Iesu, wedi ei ffrewyllu, i’w groeshoelio.
16A dug y milwyr ef ymaith i’r neuadd, sef y Praetoriwm; a galwant ynghyd yr holl fintai. 17A gwisgant ef â phorffor, a dodant am ei ben goron ddrain a blethasent; 18a dechreuasant gyfarch iddo, “Henffych well, Brenin yr Iddewon!” 19A churent ei ben â gwialen, a phoerent arno, a chan blygu eu gliniau ymgryment iddo. 20Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y porffor oddi amdano, a gwisgasant ef â’i ddillad ei hun; a dygant ef ymaith i’w groeshoelio. 21A gorfodant un yn myned heibio, Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, tad Alexander a Rwffws, i gymryd ei groes ef. 22A dygant ef i’r lle Golgotha, hynny yw o’i gyfieithu lle Penglog. 23A rhoddent iddo win â myrr ynddo; ond ef nis cymerth. 24A chroeshoeliant ef, a rhannant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt,#Salm 22:18. beth a gâi pob un. 25A’r drydedd awr oedd hi, a chroeshoeliasant ef. 26Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef#15:26 Neu, y cyhuddiad yn ei erbyn. wedi ei hysgrifennu —
BRENIN YR IDDEWON.
27A chydag ef croeshoeliant ddau leidr, un ar ei ddeheulaw ac un ar ei aswy.#15:27 Ychwanega rhai awdurdodau adn. 28, A chyflawnwyd yr ysgrythyr a ddywed ‘A chyda throseddwyr y cyfrifwyd ef.’ 29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau#Salm 22:7, 109:25. a dywedyd, “Hai, ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, 30achub dy hun a disgyn oddiar y groes.” 31Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai wrth ei gilydd gyda’r ysgrifenyddion, ac meddent, “Eraill a achubodd, ei hun ni all ei achub. 32Y Crist, Brenin Israel, disgynned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom.” A’r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo. 33A phan ddaeth y chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr. 34Ac ar y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?”#Salm 22:1. 35A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wrth ei glywed, a ddywedai, “Wele, mae’n galw ar Elïas.” 36A rhedodd rhywun, a llanwodd ysbwng â surwin,#15:36 Sef diod arferol milwyr cyffredin a llafurwyr. ac wedi ei roi ar flaen gwialen fe’i diodai, gan ddywedyd, “Gedwch i ni weled a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr!” 37Ond yr Iesu a roes lef uchel, ac a drengodd. 38A llen y deml a rwygwyd yn ddwy oddi fry i lawr. 39A phan welodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef mai felly y trengodd, fe ddywedodd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw.”
40Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago Fychan ac Ioses, a Salome, 41y rhai, pan oedd ef yn Galilea, a’i dilynai ac a weinyddai arno, a llawer o wragedd eraill, a ddeuthai i fyny gydag ef i Gaersalem.
42Ac yn awr wedi iddi hwyrhau, gan ei bod yn ddydd darpar, sef y dydd cyn y Sabath, 43fe ddaeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr bonheddig, oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac ymwrolodd ac aeth i mewn at Bilat, a gofyn am gorff yr Iesu. 44A rhyfeddodd Pilat ei farw eisoes; ac wedi galw’r canwriad ato fe ofynnodd iddo a fuasai farw eisoes#15:44 Gan ddilyn W-H.; yn N. ers meitin.; 45a phan wybu gan y canwriad fe roddes y gelain i Ioseph. 46A phrynodd yntau lenllïain; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe’i hamdôdd yn y llenllïain, a dododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig, a threiglodd faen ar ddrws y bedd. 47A Mair o Fagdala a Mair mam Ioses a sylwai pa le y dodwyd ef.
Obecnie wybrane:
Marc 15: CUG
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945