Ioan 5

5
A.D. 31. —
1 Yr Iesu ar y dydd Saboth yn iacháu yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain: 10 a’r Iddewon am hynny yn cweryla, ac yn ei erlid ef. 17 Yntau yn ateb drosto ei hun, ac yn eu hargyhoeddi hwy, gan ddangos pwy ydyw ef, trwy dystiolaeth ei Dad, 32 ac Ioan, 36 a’i weithredoedd ei hun, 39 a’r ysgrythyrau.
1Wedi hynny yr oedd #Lef 23:2; Deut 16:1gŵyl yr Iddewon; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem. 2Ac y mae yn Jerwsalem, wrth #5:2 borth. farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth; 3Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr. 4Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu’r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno. 5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai #5:5 mewn gwendid.glaf namyn dwy flynedd deugain. 6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach? 7Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i. 8Yr Iesu a ddywedodd wrtho, #Mat 9:6; Marc 2:11; Luc 5:24Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia. 9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A’r #Pen 9:14Saboth oedd y diwrnod hwnnw.
10Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, #Exod 20:10; Neh 13:19; Jer 17:21 &c; Mat 12:2; Marc 2:24; Luc 6:2Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely. 11Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia. 12Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia? 13A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai #5:13 Neu, er bod tyrfa (neu, a thyrfa) yn y fan honno.o’r dyrfa oedd yn y fan honno. 14Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: #Mat 12:45; Ioan 8:11na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth. 15Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i’r Iddewon, mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach. 16Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.
17Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt, #Pen 14:10Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio. 18Am hyn gan hynny yr Iddewon #Pen 7:19a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, #Pen 10:33; Phil 2:6gan ei wneuthur ei hun yn #5:18 gydradd.gystal â Duw. 19Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Pen 5:30; Ioan 8:28; 9:4; 12:49; 14:10Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur. 20Canys y #Pen 3:35Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi. 21Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno. 22Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr #Mat 11:27; 28:18; Ad. 27; Ioan 3:35; 17:2efe a roddes bob barn i’r Mab: 23Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. #1 Ioan 2:23Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, #Pen 3:18; 6:40, 47; 8:51Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. 25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, #Eff 2:1, 5pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. 26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; 27Ac #Pen 5:22; Act 10:42; 17:31; Edrych Dan 7:13, 14a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. 28Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: 29A #Dan 12:2; Mat 25:32, 33, 46; 1 Thess 4:16 hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn. 30#Ad. 19Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys #Pen 6:38nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 31#Pen 8:14Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32 # Mat 3:17; 17:5 Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi. 33#Pen 1:15, 19, 27Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd. 34Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi. 35Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac #2 Pedr 1:19yn goleuo; a #Edrych Mat 13:20chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36Ond #1 Ioan 5:9y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys #Pen 10:25y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i. 37A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, #Mat 3:17; 17:5; Ioan 8:18efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, #Deut 4:12; 1 Tim 1:17; 6:16; 1 Ioan 4:12ac ni welsoch ei wedd ef. 38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
39 # Esa 8:20; 34:16; Luc 16:29; Act 17:11 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a #Deut 18:15, 18; Luc 24:27; Ioan 1:45hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. 40Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. 41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44#Pen 12:43Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r #Rhuf 2:29gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? 45Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: #Rhuf 2:12y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid #Gen 3:15; 12:3; 18:18; 22:18; 49:10; Deut 18:15, 18; Act 26:22amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. 47Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?

Obecnie wybrane:

Ioan 5: BWM1955C

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj