Mathew 11
11
1-30Nawr pan we Iesu wedi pennu disgu'r douddeg disgibil, gaodd e'r lle 'ny i ddisgu a prigethu in u trefi nhwy. Cliwo Ioan in i shâl am beth we'r Meseia in neud. Halodd e air trw i ddisgiblion in gofyn, “A ti yw'r un sy'n dwâd, neu a ŷn ni fod ddishgwyl am riwun arall?” Atebo Iesu nhwy, “Cerwch a gweud wrth Ioan beth ŷch chi liwed a'n gweld: ma'r rhei dall in gweld shwrne 'to, mae'r cloff in cered, ma rhei a crwen tost in câl u gwella, ma'r biddar in cliwed, ma'r marw in câl u codi a ma'r Newyddion Da in câl i brigethu i'r dinion llwm; a ma'r un sy ddim in câl sindod o'n achos i in hapus.”
Tra we'r dinion 'ma in mynd bant gwedo Iesu wrth i crowde am Ioan, “Beth ethcoh chi mas i weld miwn lle diffeth? Brwynen in câl shigwdad 'da'r gwynt? Ond beth ethoch chi mas i weld? Dyn wedi'i wishog miwn dillad meddal? Ma'r rhei sy'n gwishgo dillad meddal in tai brenhinodd. Ond beth ethoch chi mas i weld? Proffwid? Ie, dw i'n gweu’ thoch chi, a mwy na proffwid 'fyd. Co'r un nâth ir Isgrihtur weud amdano,
“Dricha, dw i'n hala in negesydd o di flân di,
bydd e'n neud di ffordd in barod o di flân di.”
Dwi'n gweud i gwirth wrthoch chi, o'r rhei sy wedi câl eu geni o fenyw ariôd sneb mwy na Ioan Fididdiwr wedi codi; ond ma'r lleia in Teyrnas Nefodd in fwy nag e. O ddyddie Ioan Fididdiwr hyd nawr ma Teyrnas Nefodd wedi gorfod godde trais, a ma dinion treisiol wedi bod in treial câl gafel arno. Achos lan hys amser Ioan we'r Proffwydi i gyd a'r Gifreth wedi gweud beth we'n mynd i ddigwydd; a os ŷch chi'n barod i dderbyn i peth, Ioan yw'r Eleias we'i ddodd. Os wes cluste 'dach chi, iwswch nhwy.
“I beth galla i gwmharu dinion heddi? Man nhwy fel plant in ishte in sgwâr i farced, in gweiddi ar i lleill, a'n gweud,
“Nethon ni ganu cân joli iti, a nes ti ddim dawnso;
nethon ni ganu galarnad, a nes-ti ddim bwrw di frist miwn mwrnin.”
Achos ddâth Ioan ddim in bita na'n hifed, a gwedo dinion, “Ma cithrel indo fe.” Dâth Crwt i Dyn in bita a hifed, a gwedon nhwy, ‘Drichwch ar i bolgi, in hifed gwin, in ffrind rhei sy'n casglu trethi a dinion sy ddim in barchus.’ Mae Doethineb wedi câl i phrofi'n gowir achos beth ma i wedi neud.”
Wedi nâth e roi stwr i'r trefi lle we'r rhan fwya o'i weithredodd nerthol wedi câl u neud, achos bo nhwy ddim wedi difaru: “Druan â ti, Chorasin! Druan â ti, Bethsaida! Achos os bise gweithredodd nerthol a gâth u neud indo chi wedi câl u neud in Tyrus a Sidon, bise'r rhei sy'n byw fan 'ny es amser hir wedi gwishgo sach lien a wedi towlu lludw ar u penne i ddangos u bo nhwy wedi difaru. Ond dw i'n gweu 'thoch chi, bydd i'n well ar Tyrus a Sidon ar ddwarnod barn na bydd i i chi. A ti, Capernaum, a gei di di godi lan i'r nefodd? Cei di di dinnu lawr i Hades. Achos os bise'r gweithredodd nerthol gâs u neud indo ti wedi câl u neud in Sodom, bise'r lle ar i drâd hys heddi. Ond dw i'n gweu 'thoch chi bydd i'n well ar wlad Sodom ar ddwarnod barn na fydd i i chi.”
Gwedo Iesu'r amser 'ny, “Dw i'n jolch i ti, Dad, Mishtir nefodd a deiar, achos bo ti wedi cwato'r pethe 'ma wrth ddinion doeth a diallus, a'u dangos nhwy i blant bach. Wdw wir, Dad, dw i'n jolch iti achos bo hyn wrth di fodd di.
“Ma'n Dad i wedi trysto fi 'da popeth; sneb ond i Tad in nabod i Crwt, a sneb in nabod i Tad ond i Crwt a urhiw un ma'r Crwt in dewish i ddangos iddo fe. Dewch ata i bob un sy wedi bleino neu sy'n cario beichie trwm, a 'na i roi hwb ichi. Gwishgwch in iou i a disgwch wrtha i, achos dw i'n dirion a'n ishel in galon, a gewch chi fowid newy i’ch eneidie; achos ma'n iou i in rhywd i wishgo a'n faich i in isgawn.”
Obecnie wybrane:
Mathew 11: DAFIS
Podkreślenie
Udostępnij
Kopiuj
Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies