Logotipo da YouVersion
Ícone de Pesquisa

Psalmau 23

23
Y Psalm. XXIII. Englyn Proest Cyfnewidiog.
1Duw yw ’Mugail, arail em;
Ni bydh (Duw a rydh da rym)
Arnaf, er a gaf o gam,
Diau o ’stad, eisiau dim.
2Gwnaiff i’m orwedh, gyfedh goel,
Mewn porfa las, urdhas wyl;
A’m t’wysaw yn hylaw hael,
Ddifyr Iôr, wrth dhwfr arail.
3Fy enaid gannaid a gaiff
I th’wyso, wrth idh’ dheisyf,
Mewn ffyrdh kyfiawnder erof,
Mewn awr, er mwyn ei enw ef.
4A phe rhodiwn, gwn, le gwag,
Y dyffryn o dydhyn dig, —
Cysgod angau, ’n cau pob ceg,
Dyfnfodh ras, nid ofnaf dhrwg:
Wyd gyda mi, Rhi, ar hynt,
Dy wïalen, breisgwen brint,
A’th ffon hoyw, union hwnt,
Wrth Dduw, a’m cynnorthwyant.
5Arlwyaist ford bêr lawen,
Mwyna’ gwaith, i minnau gwn;
Ac y ’ngŵydh, gyfarwydh fan,
Yleni, fy ngelynion:
Ar fy mhen, llawen yw ’r llwyth,
Iraist, on’d teg yw ’r araith?
Mae fy nghwpan gyfan goeth
Yn rhylawn, gan Iôr helaeth.
6Caredigrwydh rwydh a red,
A thrugaredh, mawredh mad,
Dilynant fi, dal unnod,
Oll dhydhiau mau fy mywyd:
Ac yn llonydh, ufydh, war,
Draw gan hyn, mi ’driga ’n hir,
Yn nhŷ Dduw, ac yn nawdh lôr,
Yn dragywydh y bydh bêr.

Atualmente Selecionado:

Psalmau 23: SC1595

Destaque

Compartilhar

Copiar

None

Quer salvar seus destaques em todos os seus dispositivos? Cadastre-se ou faça o login