Mathew 8:5-34

Mathew 8:5-34 DAFIS

Pan we Iesu in myn miwn i Capernaum dâth canwriad ato fe a pledo 'dag e, a gweud, “Mishtir, ma'n was i'n gorwe in i tŷ gatre, wedi'i barlisu a mewn pwên sobor.” Gwedo Iesu, “Dwi'n dod i wella fe.” Atebo'r canwriad, “Mishtir, sena i'n ddigon da iti ddwâd miwn in dŷ i, ond gwed ti'r gair, a geith in was 'i wella. Dw i'n ddyn sy â pobol uwch in ben i in gweu'tha i beth i neud, a ma 'da fi sowldiwrs dana i dwi'n gweu'thon nhwy beth i neud. Dw i'n gweu'th un, 'Cer!', a mae e'n mynd; a wrth un arall, 'Dere', a mae e'n dwâd; a wrth in was, 'Na hyn', a mae e'n i neud e.” Pan gliwo Iesu hyn gâs e gwmint o sindod fel wedodd e wrth i crowde wen 'i ddilyn e, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, sena i wedi ffeindo shwt ffydd in neb arall in Israel. Dw i'n gweu 'thoch chi, deith pobol o bobman i ishte wrth i ford gida Abrham a Isaac a Jacob in Teyrnas Nefodd. Ond bydd i rhei we â hawl i fod 'na in câl 'u towlu mas i'r tewillwch. Biddan nw'n boichen a crenshan dane fan 'ny o achos i peên.” Gwedo Iesu wrth i canwriad, “Cer; geith e gâl i neud i ti in gowir fel wit ti wedi credu”; a gâs i was i wella'r funud 'ny. Dâth Iesu miwn i dŷ Pedr a châl bo mam-ing-ngifreth Pedr in gorwe in i gwely in dost 'da dwymyn. Gwrodd e i llaw hi a gadodd i dwymyn hi, a gododd hi a dachre drych ar u hôle nhwy. Pan ddachreuodd i nosi dethon nhwy a lot o bobl â cithtreilied indyn nhwy ato fe. Dim ond gair wedd ishe iddo fe weud cyn bo nhwy in u gadel nhwy, a wellodd e bob un wenyn nhwy'n dda. Nâth 'na ddigwydd er mwyn neud beth we'r proffwyd Eseia wedi gweud fidde'n digwydd: “Cwmrodd e'n salwch ni bant a crio bant in clefide ni.” Wrth weld crowd rownd 'ddo rhoiodd Iesu ordros i fynd i ochor arall i llyn. Dâth un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth ato a gweu 'tho fe, “Misthir, 'na i di ddilyn di ble binnag ei di.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Ma'u twlle 'da'r cadnoid, ma lle i aros 'da adar ir awyr, ond sdim un lle 'da Crwt i Dyn i roi ben lawr.” Gwedo un arall o'i ddisgiblion wrtho fe, “Misthir, gad fi fynd i gladdu'n dad in i lle cinta.” Ond gwedo Iesu wrtho fe, “Dere di ar in ôl i, a gad-ti'r marw i galddu'r marw.” Pan âth e miwn i gwch dâth i ddisgiblion ar i ôl e. Cododd storom fowr ar i llyn fel bo'r cwch wedi'i chwato in i tone mowr; ond wedd e'n cisgu. Dethon nhwy a'i ddihuno fe a gweud, “Mishtir, safia ni, acho ŷn ni'n shinco.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Pam we ofon arnoch chi, chi rei heb ddim lot o ffydd?” Cododd e lan a sharad in sharp 'da'r gwynt a'r dŵr, a wedyn we tawelwch mowr. Gâs i dinion sinod, a gweud, “Pwy short o ddyn yw hwn, mae hyd 'nôd i gwynt a'r dŵr in grondo arno fe?” Dâth e i ochor arall i llyn, i ardal i Gadreniad, a dâth dou ddyn a cithreilied arnyn nhwy o ganol i twme i gwrdd â nhwy. Wen nhwy ddansherus iawn, so we neb in galler mynd ar hyd ir hewl 'nay. Gwediddon nhwy, “Crwt Duw, pam wit ti'n busnesa 'da ni? Wit ti wedi dwâd 'ma i neud dolur i ni cyn i'r amser iawn? Draw bishyn wrthyn nhwy we cenfent o foch in pori. Begianodd i cithreilied, “Os wit ti'n in hala ni mas, hal ni miwn i'r moch.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Cerwch.” Dethon nhwy mas a ethon miwn i'r moch, a rheodd i moch i gyd nerth u trâd lawr dros i dwnshwn a miwn i'r llyn, a boddi in i dŵr. Rhedodd i rhei we'n gofalu am i moch bant a mynd miwn i'r dre. Fan 'ny nethon nhwy weud am bopeth we wedi digwydd, in arebnnig am i cithreilied. Dâth i dre i gyd mas i gwrdd â Iesu a begian arno fynd o'u hardal nhwy.

Читать Mathew 8