බයිබල් යෙදුම් ලාංඡනය
සෙවුම් නිරූපකය

Eseciel 25

25
Negeseuon am y gwledydd#25:0 Mae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1–2; Eseia 13–23; Jeremeia 46–51. Mae’n ein hatgoffa mai Duw ydy’r unig wir Dduw, a’i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.
Ammon
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw. 3Dwed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi’n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. 4Ond gwyliwch chi’ch hunain! Dw i’n mynd i’ch gwneud chi’n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw’n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw’n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. 5Bydda i’n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
6“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn#25:6 ysgwyd dwrn Hebraeg, “curo dwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio. a stampio’ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio, 7dw i’n mynd i’ch taro chi’n galed! Dw i’n mynd i adael i’r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi’n peidio bod yn genedl. Dw i’n mynd i’ch dinistrio chi’n llwyr. A byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD!’”
Moab a Seir
8“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall! 9Felly dyma dw i’n mynd i’w wneud iddyn nhw: dw i’n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio’r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim. 10Dw i’n mynd i roi eich tir a’ch pobl yn nwylo’r llwythau o’r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl. 11A dw i’n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD!’”
Edom
12“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw’n euog.’ 13Ie, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy’n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman#25:13 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi’i henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11. i Dedan yn y de. 14Bydda i’n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw’n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy’n dial arnyn nhw, meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.’”
Philistia
15“Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae’r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau’i dinistrio hi. 16Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i’n mynd i daro’r Philistiaid yn galed. Dw i’n mynd i ladd y Cerethiaid#25:16 Enw arall ar y Philistiaid, oedd wedi dod o Creta yn wreiddiol. a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir. 17Dw i’n mynd i ddial arnyn nhw a’u cosbi nhw’n wyllt. A phan fydda i’n dial, byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD!’”

දැනට තෝරාගෙන ඇත:

Eseciel 25: bnet

සළකුණු කරන්න

පිටපත් කරන්න

සසඳන්න

බෙදාගන්න

None

ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්‍රවේශ වීමට අවශ්‍යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න