Eseia 12
12
Emyn o fawl
1Bryd hynny, byddi’n dweud:
“Dw i eisiau diolch i ti, O ARGLWYDD!
Er dy fod wedi digio gyda fi,
rwyt wedi troi oddi wrth dy lid a’m cysuro.
2Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i!
Bydda i’n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn.
Yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth a chân i mi!
Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.”#Exodus 15:2; Salm 118:14
3Byddwch yn codi dŵr yn llawen
o ffynhonnau achubiaeth.
4Byddwch yn dweud bryd hynny:
“Diolchwch i’r ARGLWYDD, a galw ar ei enw.
Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e;
cyhoeddwch fod ei enw wedi’i godi’n uchel.
5Canwch salmau i’r ARGLWYDD,
am iddo wneud peth mawr!
Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd
yn gwybod am y peth!
6Bloeddiwch ganu’n llawen,
chi sy’n byw yn Seion!
Mae’r Un sydd yn eich plith yn fawr –
Un Sanctaidd Israel.”
දැනට තෝරාගෙන ඇත:
Eseia 12: bnet
සළකුණු කරන්න
පිටපත් කරන්න
සසඳන්න
බෙදාගන්න
ඔබගේ සියලු උපාංග හරහා ඔබගේ සළකුණු කල පද වෙත ප්රවේශ වීමට අවශ්යද? ලියාපදිංචි වී නව ගිණුමක් සාදන්න හෝ ඔබගේ ගිණුමට ඔබගේ ගිණුමට පිවිසෙන්න
© Cymdeithas y Beibl 2023