Telwch iddo wrogaeth, rhag iddo ddigio,
A dyfod diwedd arnoch,
Canys y peth lleiaf a ennyn Ei ddicter.
O mor hapus yw pawb a gaffo gysgod ynddo Ef.
SALM II
Salm amddifad arall, a gwaith ofer ydyw ceisio ei hamseru. Amryfal ydyw dyfaliadau esbonwyr, a phriodolwyd hi i bob cyfnod rhwng Dafydd ac Alecsander Iannaeus (104-78 c.c.).
Y mae’r Salm hon yn Feseianaidd (gwêl Rhagymadrodd), ac yn yr ystyr hon y dehonglwyd hi gan yr Iddewon.
1—3. Y mae teyrnas y Meseia yn fyd-eang, ac ymestyn ei lywodraeth dros frenhinoedd daear, a chais hwythau ddymchwel ei awdurdod.
4—6. Cyferbynnir dwndwr y ddaear â thawelwch y nefoedd, ac oferedd geiriau’r cynllwynwyr â dychryn geiriau Iehofa.
7—9. Etholedig Iehofa, y Meseia ei hun sydd yn llefaru’r geiriau hyn, a diau fod proffwydoliaeth Nathan yn 2 Sam. 7. ym meddwl yr awdur.
10—12. Cyngor a rhybudd y Salmydd sydd yn yr adran hon. Y mae testun yr adnod olaf yn anodd iawn, a pheth bynnag a ddichon fod y darlleniad cywir, nid ‘cusenwch y Mab’ ydyw hwnnw. Bwriad y Salmydd oedd cyfleu rhyw syniad tebyg i’r cyfieithiad uchod.
1. I ba raddau y mae’r pennill cyntaf yn ddarlun o gyffro bywyd y cenhedloedd heddiw? Ai gwrthryfel yn erbyn Duw ydyw achos yr anhunedd?
2. A all Duw ymyrraeth yn uniongyrchol, fel yr awgryma’r ail bennill, i ddofi dig cenhedloedd gwrthryfelgar?
3. Gelwir yr Iddewon yn “genedl gobaith”. Yng ngoleuni’r trydydd pennill pa mor wir yw hyn?
4. Myfyriwch y cyfeiriadau mynych sydd yn y Testament Newydd at y Salm hon.
A ydyw Actau 4:25 yn braw mai Dafydd yw ei hawdur hi? Ym medydd a gweddnewid Crist dyfynnir hi (Mc. 1:11 a 9:2-8). Yn ôl Paul cyflawnwyd geiriau’r 7 adnod yn ei Atgyfodiad, ac yn Hebreaid 1:5 a Heb. 5:5 cymhwysir hwynt at y Crist gorseddedig. Gwelir hefyd Dat. 2:27; 12:5 a 19:15.