Matthaw 1
1
PENNOD I.
Achau, Cenhendliad, ac Enwau Christ.
1LLYFR cenhedliad Iesu Christ, fab Dafydd, fab Abraham. 2Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Iacob; a Iacob a genhedlodd Iudas a’i frodyr. 3A Iudas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom; a genhedlodd Aram; 4Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon; 5A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Iesse; 6A Iesse a genhedlodd Ddafydd frenin; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Urïas. 7A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abïa; ac Abïa a genhedlodd Asa; 8Ac Asa a genhedlodd Iosaphat; a Iosaphat a genhedlodd Ioram; a Ioram a genhedlodd Ozïas; 9Ac Ozïas a genhedlodd Ioatham; a Ioatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecïas; 10Ac Ezecïas a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Iosïas; 11A Iosïas a genhedlodd Iechonïas a’i frodyr, yn amser yr alltudiaeth i Babulon: 12A pan dychwelwyd o’r alltudiaeth i Babulon, Iechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel; 13A Zorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Elïacim; ac Elïacim a genhedlodd Azor; 14Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud; 15Ac Elïud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Iacob; 16A Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Maria, o’r hon y cenhedlwyd Iesu, yr hwn sydd yw alw Christ. 17Am hynny yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd oeddynt bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd yr alltudiaeth i Babulon bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o pan ddychwelwyd o’r alltudiaeth i Babulon hyd Christ bedair cenhedlaeth ar ddeg. 18A cenhedlaeth yr Iesu Christ a oedd fel hyn: canys gwedi dyweddïo Maria ei fam ef â Ioseph, cyn iddynt gyd-fyw, hi a gafwyd yn feichiog o’r Yspryd Sanctaidd. 19A Ioseph ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac ddim yn chwennych ei gwneuthur hi yn gyhoeddus, a fwriadodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel. 20A tra yr oedd efe yn ystyried am y pethau ymma, wele cennad yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, yn dywedyd, Ioseph, mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Maria dy wraig, oblegyd yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Yspryd Sanctaidd. 21A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegyd efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau. 22(A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, 23Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyd â ni.) 24A Ioseph pan ddeffroës o gwsg, a wnaeth megis y gorchymynasai cennad yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig. 25Ac nid adnabu efe hi, hyn oni esgorodd hi ar ei mab cyntafanedig. A galwodd ei enw ef IESU.
Aktualisht i përzgjedhur:
Matthaw 1: JJCN
Thekso
Ndaje
Copy
A doni që theksimet tuaja të jenë të ruajtura në të gjitha pajisjet që keni? Regjistrohu ose hyr
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.