Obadia LLYFR OBADIA
LLYFR OBADIA
Nis gwyddir pwy oedd Obadia. Sonir yn enwedig am dri o’r enw hwn, 1 Bren. 18:3; 2 Cron. 17:7; a 34:12. Gan yr ymddengys oddiwrth yr adnodau 13 a 14, iddo ysgrifenu gwedi syrthiad Ierusalem, nis gallai fod y cyntaf na’r ail, sef penteulu Ahab, neu un o bendefigion Iehosaphat, o herwydd eu hoes oedd ychwaneg na thair canrif cyn i Ierusalem syrthio. Gallasai fod yr olaf, sef un o olygwyr y deml yn amser Iosia.
Dywed Usher ddarfod i Ierusalem gael ei chymeryd yn y flwyddyn 588 cyn Crist, ac i Nebucadnesar ddechreu gwarchae Tyre dair blynedd gwedi hyn. Parhäodd y gwarchae 13 o flynyddau. Yn yr yspaid hyn y darfu Nebucadnesar oresgyn Edom a’r cenedloedd amgylchol. Felly, buan y cyflawnid prophwydoliaeth Obadia ynghylch Edom.
Dyma y llyfr byraf yn yr Hen Destament. Y rhan fwyaf o hono sydd am ddinystr Edom, a hyny, yn enwedig, o herwydd ei chreulondeb tuag at Iowda, pan ei darostyngid gan Nebucadnesar. Yn niwedd ei Lyfr, prophwyda hefyd am ddychweliad Israel o gaethiwed.
LLYFR OBADIA
Trenutno izabrano:
Obadia LLYFR OBADIA: CJO
Istaknuto
Podeli
Uporedi
Kopiraj
Želiš li da tvoje istaknuto bude sačuvano na svim tvojim uređajima? Kreiraj nalog ili se prijavi
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.