Salmau 3
3
SALM 3
Hyder mewn adfyd
Bod Alwyn MB
1-2Mae fy ngelynion lu,
Yn uchel iawn eu llef,
Yn holi’n goeglyd, “Pam na ddaw
Ei Dduw i’w achub ef?”
3-4Ond yr wyt ti, fy Nuw,
Yn darian gref i mi.
Gwaeddaf yn uchel arno ef;
Fe etyb yntau ’nghri.
5-6Mi gysgaf, a deffrôf,
Am fod fy Nuw o’m tu.
Nid ofnwn fyrddiwn o rai drwg.
Nac ymosodiad llu.
7-8Fe drewi di’r rhai drwg,
A thorri’u dannedd llym.
Ti biau’r waredigaeth fawr.
Bendithia ni â’th rym.
Nu markerat:
Salmau 3: SCN
Märk
Dela
Kopiera

Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
© Gwynn ap Gwilym 2008