Matthew Lefi 13
13
DOSBARTH VII.
Damegion.
1-3Yr un diwrnod, Iesu gwedi myned allan o’r tŷ á eisteddodd wrth làn y môr; ond tyrfa gymaint á ymdỳrai o’i amgylch; fel yr aeth efe i long, ac yr eisteddodd yno, a’r holl bobl á safent àr y làn. Yna yr ymadroddodd efe wrthynt am lawer o bethau mewn damegion.
4-9Yr heuwr, meddai efe, á aeth allan i hau; ac wrth hau, rhai hadau á syrthiasant àr fin y ffordd, a’r adar á ddaethant, ac á’u pigasant i fyny: rhai á syrthiasant àr dir creigiog, lle ni chawsant ond ychydig ddaiar: y rhai hyn á eginasant yn gynt, am nad oedd iddynt ddyfnder daiar: ond wedi i’r haul guro arnynt, hwy á ddeifiwyd, ac am nad oedd gwreiddyn iddynt, hwy á wywasant. Rhai á syrthiasant yn mysg drain, a’r drain á dyfasant ac a’u tagasant: Ereill á syrthiasant i dir da, ac á ddygasant ffrwyth, rhai àr eu cannfed, ereill àr eu triugeinfed ac ereill, àr eu degfed àr ugain. Pwybynag sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
10-17Yna y dysgyblion á’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Paham yr wyt yn llefaru wrthynt mewn damegion? Yntau, gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Am mai eich braint chwi, a nid yr eiddynt hwy, yw gwybod cyfrinion Teyrnasiad y Nefoedd. Canys i’r hwn y mae ganddo, y rhoddir chwaneg, ac efe á gaiff helaethrwydd; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y dygir hyd yn nod yr hyn sy ganddo. O herwydd pa ham yr wyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamegion; canys â hwy yn gweled, nid ynt yn gweled; ac yn clywed, nid ynt yn clywed, nac yn ystyried; yn gymmaint a bod y broffwydoliaeth hon i Isaia yn cael ei chyflawni ynynt, “Yn ddiau chwi á glyẅwch, ond ni ddëallwch; chwi á edrychwch, ond ni chanfyddwch. Oblegid dëall y bobl hyn sy gwedi ei hurtio, eu clustiau á fyddarwyd, a’u llygaid á gauasant, rhag, drwy weled â’u llygaid, clywed â’u clustiau, ac amgyffred â’u dëall, iddynt ddiwygio, ac i minnau eu hadferu hwynt.” Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau chwi, am eu bod yn clywed. Oblegid, yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, chwennychu o lawer o broffwydi, a rhai cyfiawn, weled y pethau à welwch chwi, ond nis gwelsant; a chlywed y pethau à glyẅwch chwi, ond nis clywsant.
18-23Dëallwch chwi, gàn hyny, ddameg yr heuwr. Pan glywo un athrawiaeth y Teyrnasiad, a heb ei hystyried, y mae yr un drwg yn dyfod, ac yn cipio ymaith yr hyn à heuwyd yn ei galon ef. Hyn á eglura y peth à syrthiodd àr fin y ffordd. Y peth à syrthiodd àr dir creigiog, á ddynoda y sawl, wrth glywed y gair, a’i derbynia àr y cyntaf gyda hyfrydwch; eto gàn nad yw gwedi ei wreiddio yn ei feddwl ef, nid yw yn ei ddal ond dros ychydig; canys pan ddel blinder neu erlidigaeth, o achos y gair, yn y fàn efe á adgwympa. Y peth à syrthiodd yn mysg drain, á ddynoda y gwrandaẅwr hwnw, yn yr hwn y mae gofalon bydol, a golud twyllodrus, yn tagu y gair, ac yn ei wneuthur yn anffrwythlawn. Ond y peth à syrthiodd i dir da, ac á ddyg ffrwyth, peth ar ei gannfed, arall àr ei driugeinfed, arall àr ei ddegfed àr ugain, á ddynoda yr hwn, nid yn unig sydd yn clywed ac yn ystyried y gair, ond yn ufyddâu iddo.
24-30Dameg arall á osododd efe iddynt, gàn ddywedyd, Gellir cymharu teyrnas y nefoedd i faes, yn yr hwn yr heuasai y perchenog rawn da; ond tra yr oedd pobl yn cysgu, ei elyn á ddaeth, ac á heuodd #13:24 Efrau; darnel.ler yn mhlith y gwenith, ac á aeth ymaith. Wedi i’r eginyn dyfu, ac i’r dwysen ddyfod allan, yna yr ymddangosodd y ller hefyd. A’r gweision á ddaethant, ac á ddywedasant wrth eu meistr, Syr, ti á heuaist rawn da yn dy faes; o ba le gan hyny, y mae y ller ynddo? Yntau á atebodd, Gelyn á wnaeth hyn. Hwythau á ddywedasant, A fyni di gàn hyny i ni eu chwŷnu hwynt allan? Yntau á atebodd, Na fýnaf; rhag i chwi, wrth chwýnu allan y ller, ddiwreiddio y gwenith hefyd. Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn amser cynauaf, dywedaf wrth y medelwyr, cesglwch yn gyntaf y ller, a gwnewch hwynt yn sypiau iddeu llosgi; yna cesglwch y gwenith i’m hysgubor.
31-32Cyffelybiaeth arall á osododd efe iddynt, gàn ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas y nefoedd i ronyn o had #13:31 Mwstard.cethw, yr hwn á blànodd dyn yn ei faes; canys èr mai fo yw y lleiaf o’r hadau, y mae gwedi iddo dyfu, yn fwy nag un llysieuyn ac yn myned yn bren, nes y mae adar yr awyr yn ymddiddosi yn ei gangau.
33Cyffelybiaeth arall á roddes efe iddynt; Tebyg yw teyrnas y nefoedd i eples, yr hwn á gymysgodd gwraig mewn tri mesur o flawd, hyd oni epleswyd y cwbl.
34-35Yr holl gyffelybiaethau hyn á lefarodd Iesu wrth y bobl; canys drwy gyffelybiaethau yn unig y dysgai efe hwynt; yn hyn yn gwireddu gair y proffwyd, “Mi á ymadroddaf mewn damegion; mi á fynegaf bethau, y bu holl hynafiant yn ddystaw am danynt.”
36-43Yna Iesu gwedi gadael y dyrfa, á enciliodd i’r tŷ, lle y cyfarchodd ei ddysgyblion ef, gàn ddywedyd, Eglura i ni ddameg y ller yn y maes. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Yr hwn á heuodd yr had da yw Mab y Dyn. Y maes yw y byd: yr had da yw plant y deyrnas; a’r ller yw plant yr un drwg; y gelyn, yr hwn á’u heuodd hwynt, yw y diafol. Y cynauaf yw dybeniad y cyflwr hwn; a’r medelwyr yw yr angylion. Megys, gàn hyny, y cesglir y ller, ac y llosgir hwynt, felly y bydd àr ddybeniad y cyflwr hwn. Mab y Dyn á ddenfyn ei angylion, y rhai á gynnullant allan o’i deyrnas ef yr holl hudolion a’r rhai drygionus, ac á’u taflant i’r ffwrn danllyd: wylofain a rhincian dannedd fydd yno. Yna y cyfiawnion á lewyrchant fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y neb sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed,
44Drachefn, tebyg yw teyrnas y nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes, yr hwn wedi i ddyn ei ddarganfod, y mae yn dirgelu y darganfyddiad, ac o lawenydd am dano, yn gwerthu yr oll à fedda, ac yn prynu y maes hwnw.
45-46Drachefn, tebyg yw teyrnas y nefoedd i berl tra gwerthfawr, yr hwn y darfu i faelierydd, wrth chwilio am berlau teg, ei gael, ac efe á werthodd yr oll à feddai, ac á’i prynodd.
47-50Drachefn, tebyg yw teyrnas y nefoedd i ysgubrwyd à fwriwyd i’r môr, yr hon á amgaua bysgod o bob math. Pan y mae yn llawn, hwy á’i tỳnant i’r lan, ac á gasglant y rhai da i lestri, ond taflant ymaith y rhai diddefnydd. Felly y bydd àr ddybeniad y cyflwr hwn. Yr angylion á ddeuant ac á ddidolant y rhai drygionus o blith y rhai cyfiawn, ac á’u taflant hwynt i’r ffwrn danllyd. Wylofain a rhincian dannedd fydd yno.
51-53Iesu á ddywedodd, A ydych chwi yn dëall y pethau hyn oll? Hwythau á atebasant, Ydym, Feistr. Efe á chwanegodd, Pob ysgrífenydd, gàn hyny, gwedi ei ddysgu i Deyrnasiad y Nefoedd, sy fel meistr tŷ, yr hwn á ddwg allan o’i ystordy bethau newydd a hen. A gwedi iddo orphen y cyffelybiaethau hyn, efe á ymadawodd oddyno.
DOSBARTH VIII.
Y bobl yn cael eu porthi ddwywaith yn y diffeithwch.
54-58Iesu gwedi dyfod iddei wlad ei hun, á ddysgai y trigolion yn eu cynnullfa: a hwy á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae gàn y dyn hwn y doethineb hwn, a’r gallu yma i wneuthur gwyrthiau? Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? Ac onid yw ei frodyr, Iago, a Ioses, a Simon, a Iuwdas, a’i holl chwiorydd ef, yn byw yn ein plith ni? O ba le, gàn hyny, y mae ganddo ef y pethau hyn oll? Felly hwy á dramgwyddasant wrtho. Ond Iesu á ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn cael ei ddiystyru yn un lle, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei deulu ei hun. A ni wnaeth efe nemawr o wyrthiau yno, oblegid eu hannghrediniaeth hwynt.
Nu markerat:
Matthew Lefi 13: CJW
Märk
Dela
Kopiera
Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.