Effesiaid 1
1
1Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol iâr Meseia Iesu.
At bobl Dduw yn Effesus, syân dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo:
2Dw iân gweddĂŻo y byddwch chiân profiâr haelioni rhyfeddol aâr heddwch dwfn mae Duw ein Tad aâr Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Bendithion Ysbrydol perthyn iâr Meseia
3Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol syân y byd nefol arnon ni syân perthyn iâr Meseia. 4Hyd yn oed cyn iâr byd gael ei greu, cawson niân dewis ganddo i fod mewn perthynas Ăąâr Meseia, ac i fod yn lĂąn a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad 5trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu iâw deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! 6Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wediâi ddangos tuag aton ni! â ei anrheg i ni yn y Mab maeân ei garu. 7Cawson niân gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dĆ·n niân gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! 8Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. 9Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwyâr Meseia. Trefnu 10i ddod Ăą phopeth syân bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.
11Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas Ăąâr Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnuâr cwbl ymlaen llaw. Maeân rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. 12Mae am i niâr Iddewon, y rhai cyntaf i roiân gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. 13Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd â cawsoch chithau eich derbyn i berthynas Ăąâr Meseia ar ĂŽl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da syân eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sĂȘl syân dangos eich bod yn perthyn iddo, aâr sĂȘl hwnnw ydyâr Ysbryd GlĂąn oedd wediâi addo i chi. 14Yr Ysbryd ydyâr blaendal syân gwarantuâr ffaith bod lle wediâi gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd iâw feddiannuân llawn. Rheswm arall iâw foli am ei fod mor wych!
Diolchgarwch a Gweddi
15Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb iâr Arglwydd Iesu aâch cariad at Gristnogion eraill, 16dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw iân cofio amdanoch chi bob tro dw iân gweddĂŻo. 17Dw iân gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roiâr Ysbryd i chi iâch goleuo aâch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod iâw nabod yn well. 18Dw iân gweddĂŻo y dawâr cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydyâr gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydyâr lle bendigedig sydd ganddo iâw bobl. 19Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydyâr nerth sydd ar gael i ni syân credu. Dymaâr pĆ”er aruthrol 20wnaeth godiâr Meseia yn ĂŽl yn fyw aâi osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.#gw. Salm 110:1 21Maeân llawer uwch nag unrhyw un arall syân teyrnasu neuân llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall syân bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo â yn y byd yma naâr byd sydd i ddod! 22Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. #cyfeiriad at Salm 8:6 (syân cyfeirio yn ĂŽl at Genesis 1:26-28) Mae wediâi wneud e yn ben ar y cwbl â er lles yr eglwys. 23Yr eglwys ydy ei gorff e â maeân llawn ohono fe syân llenwiâr bydysawd cyfan Ăąâi bresenoldeb.
Nu markerat:
Effesiaid 1: bnet
MĂ€rk
Kopiera
JÀmför
Dela
Vill du ha dina höjdpunkter sparade pÄ alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
© Cymdeithas y Beibl 2023