Exodus 26
26
Y Tabernacl
(Exodus 36:8-38)
1âMaeâr Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen oâr lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wediâu dylunioân gelfydd arnyn nhw aâu brodio gydag edau las, porffor a coch. 2Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led â i gyd yr un faint. 3Mae pump oâr llenni i gael eu gwnĂŻo at ei gilydd, aâr pump arall yr un fath. 4Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set â 5hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn aâi gilydd. 6Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
7âYna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl â un deg un ohonyn nhw. 8Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led â i gyd yr un faint. 9Mae pump oâr llenni i gael eu gwnĂŻo at ei gilydd, aâr chwech arall i gael eu gwnĂŻo at ei gilydd. Maeâr chweched llen yn yr ail grĆ”p o lenni iâw phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell. 10Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 11a hanner can bachyn pres i fynd drwyâr dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn. 12Maeâr hanner llen sydd dros ben iâw adael yn hongian dros gefn y Tabernacl. 13Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn syân hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi iâr llawr.
14âYnaân olaf, dau orchudd arall dros y cwbl â un wediâi wneud o grwyn hyrddod wediâu llifoân goch, a gorchudd allanol o grwyn mĂŽr-fuchod.
15âMae fframiauâr Tabernacl iâw gwneud allan o goed acasia. 16Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led, 17gyda dau denon ar bob un iâw cysylltu Ăąâi gilydd. 18Rhaid gwneud dau ddeg ffrĂąm i ochr ddeheuol y Tabernacl, 19a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau â dwy soced iâr ddau denon ar bob ffrĂąm. 20Wedyn dau ddeg ffrĂąm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol. 21A phedwar deg soced iddyn nhw â dwy soced dan bob ffrĂąm. 22Yna chwe ffrĂąm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 23a dau ffrĂąm ychwanegol iâr corneli yn y cefn. 24Yn y corneli, mae dau ffrĂąm yn ffitio gydaâi gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gydaâi gilydd gan gylch ar y top. Maeâr fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath. 25Mae hynnyân gwneud wyth ffrĂąm gydag un deg chwech o socedi arian â dwy soced dan bob ffrĂąm.
26-27âYna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia â pump iâr fframiau bob ochr iâr Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl syân wynebuâr gorllewin. 28Maeâr croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen iâr llall. 29Maeâr fframiau aâr croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac maeâr cylchoedd syân dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.
30âPan fyddiân codiâr Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.
31âRwyt i wneud llen arbennig oâr lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wediâu dylunioân gelfydd arni, aâu brodio gydag edau las, porffor a coch. 32Maeâr llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wediâu gorchuddio gydag aur aâu gosod mewn socedi arian. 33Maeâr llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth iâw gosod tu ĂŽl iâr llen. Bydd y llen yn gwahanuâr Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd. 34Yna maeâr caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. 35Wedyn maeâr bwrdd aâr menora (sef y stand iâr lampau) i gael eu gosod gyferbyn Ăąâi gilydd tu allan iâr llen â y bwrdd ar ochr y gogledd, aâr menora ar ochr y de. 36Wedyn rhaid gwneud sgrĂźn ar gyfer y fynedfa iâr babell. Bydd hon eto wediâi gwneud oâr lliain main gorau, ac wediâi brodio gydag edau las, porffor a coch. 37Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wediâu gorchuddio gydag aur. Maeâr bachau iâw gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.
Nu markerat:
Exodus 26: bnet
MĂ€rk
Kopiera
JÀmför
Dela
Vill du ha dina höjdpunkter sparade pÄ alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
© Cymdeithas y Beibl 2023