Exodus 36
36
1âFelly mae Betsalel, Oholiab aâr crefftwyr eraill, sef y rhai mae Duw wediâu donio i wneud y gwaith o godiâr cysegr, i wneud popeth yn union fel maeâr ARGLWYDD wedi dweud.â
Trosglwyddoâr rhoddion iâr crefftwyr
2Dyma Moses yn galw Betsalel ac Oholiab ato, aâr crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wediâu donio â pob un oedd wediâi sbarduno i wirfoddoli i helpu. 3A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wediâu hoffrymu iâr gwaith o godiâr cysegr.
Ond roedd y bobl yn dod Ăą mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore. 4Felly dymaâr crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith, 5a dweud wrth Moses, âMaeâr bobl wedi dod Ăą mwy na digon i orffen y gwaith maeâr ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!â 6Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwyâr gwersyll, âDoes dim angen mwy o bethau iâw cyflwynoân rhoddion tuag at adeiladuâr cysegr!â Roedd rhaid stopioâr bobl rhag dod Ăą mwy! 7Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.
Codiâr Tabernacl
(Exodus 26:1-37)
8Dymaâr crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl o ddeg llen oâr lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wediâu dylunioân gelfydd arnyn nhw, aâu brodio gydag edau las, porffor a coch. 9Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led â i gyd yr un faint. 10Yna dyma bump oâr llenni yn cael eu gwnĂŻo at ei gilydd, aâr pump arall yr un fath. 11Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set â 12hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn Ăąâi gilydd. 13Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
14Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl â un deg un ohonyn nhw. 15Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd, a dau fetr o led â i gyd yr un faint. 16Yna gwnĂŻo pump oâr llenni at ei gilydd, a gwnĂŻoâr chwech arall at ei gilydd hefyd. 17Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 18a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
19Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wediâi wneud o grwyn hyrddod wediâu llifoân goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn mĂŽr-fuchod dros hwnnw.
20Yna cafodd fframiauâr Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth. 21Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led, 22gyda dau denon ar bob un iâw cysylltu Ăąâi gilydd. Roedd y fframiau i gyd wediâu gwneud yr un fath. 23Roedd dau ddeg ffrĂąm ar ochr ddeheuol y Tabernacl, 24a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau â dwy soced iâr ddau denon ar bob ffrĂąm. 25Wedyn dau ddeg ffrĂąm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol, 26gyda phedwar deg soced iâw dal nhw â dwy soced dan bob ffrĂąm. 27Yna chwe ffrĂąm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 28a dau ffrĂąm ychwanegol iâr corneli yn y cefn. 29Yn y corneli roedd y ddau ffrĂąm yn ffitio gydaâi gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gydaâi gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath. 30Felly roedd wyth ffrĂąm gydag un deg chwech o socedi arian â dwy soced dan bob ffrĂąm.
31-32Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia â pump iâr fframiau bob ochr iâr Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl syân wynebuâr gorllewin. 33Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen iâr llall. 34Yna gorchuddioâr fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddioâr croesfarrau gydag aur hefyd.
35Wedyn gwneud llen arbennig oâr lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wediâu dylunioân gelfydd arni, aâu brodio gydag edau las, porffor a coch. 36A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wediâu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a phedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.
37Yna gwneud sgrĂźn ar gyfer y fynedfa iâr babell. Hon eto wediâi gwneud oâr lliain main gorau, ac wediâi brodio gydag edau las, porffor a coch. 38Yna gwneud pump polyn o goed acasia gyda bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.
Nu markerat:
Exodus 36: bnet
MĂ€rk
Kopiera
JÀmför
Dela
Vill du ha dina höjdpunkter sparade pÄ alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
© Cymdeithas y Beibl 2023