Datguddiad 21
21
Y Jerwsalem newydd
1Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear aâr awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y mĂŽr ddim yn bodoli ddim mwy.#cyfeiriad at Eseia 65:17; 66:22 2Dyma fiân gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wediâi gwisgoân hardd ar gyfer ei phriodas. 3Wedyn clywais lais oâr orsedd yn cyhoeddiân glir, âBellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhwân bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.#adlais o Eseciel 37:27; Lefiticus 26:11-12 4Bydd yn sychu pob deigryn oâu llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.â
5Dymaâr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,
âEdrychwch! Dw iân gwneud popeth yn newydd!â
Meddai wedyn, âYsgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw iân ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.â
6Meddai wrtho i: âDyna ddiwedd y cwbl! Fi ydyâr Alffa aâr Omega,#21:6 Alffa aâr Omega: gw. nodyn ar 1:8. y Dechrau aâr Diwedd. Bydda iân rhoi diod o ffynnon dĆ”r y bywyd iâr rhai hynny syân sychedig â yn rhad ac am ddim! 7Bydd y rhai syân ennill y frwydr yn etifedduâr pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhwân blant i mi. 8Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl syân anfoesol yn rhywiol, y rhai syân ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac syân dweud celwydd â y llyn tĂąn syân llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dynaâr âail farwolaethâ.â
9Yna dyma un oâr saith angel oedd yn dal y powlenni llawn oâr saith pla olaf yn dod ata i a dweud, âTyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.â 10Dymaâr angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd Ăą fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. 11Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hiân disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr â fel iasbis, yn glir fel grisial! 12Roedd anferth o wal uchel oâi chwmpas gyda deuddeg giĂąt ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wediâu hysgrifennu ar y giatiau. 13Roedd tair giĂąt ar yr ochr ddwyreiniol, tair iâr gogledd, tair iâr de a thair iâr gorllewin. 14Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wediâu hysgrifennu ar y rheiny.
15Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad Ăą mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau aâi waliau. 16Roedd y ddinas yn berffaith sgwĂąr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gydaâr ffon fesur cafodd ei bod hiân 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled aâi huchder. 17Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch â yn ĂŽl y mesur cyffredin. 18Roedd y wal wediâi hadeiladu o faen iasbis, aâr ddinas wediâi gwneud o aur pur, mor bur Ăą gwydr. 19Roedd sylfeini waliauâr ddinas wediâu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, aâr pedwerydd yn emrallt; 20onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed. 21Roedd giatiauâr ddinas wediâu gwneud o berlau, pob giĂąt unigol wediâi gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur Ăą gwydr clir!
22Doedd dim teml iâw gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog aâr Oen yno, fel teml. 23Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, aâr Oen fel lamp yn ei goleuo hi.#cyfeiriad at Eseia 60:19-20 24Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod Ăąâu holl gyfoeth i mewn iddi hi. 25Fydd ddim rhaid iâw giatiau gael eu cau o gwbl,#aralleiriad o Eseia 60:3-5,11 achos fydd dim nos yno.#cyfeiriad at Sechareia 14:7 26Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi. 27Ond fydd dim byd aflan yn mynd i mewn iddi, nac unrhyw un syân gwneud pethau ffiaidd neuân twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd Ăąâu henwau wediâu hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.
Nu markerat:
Datguddiad 21: bnet
MĂ€rk
Kopiera
JÀmför
Dela
Vill du ha dina höjdpunkter sparade pÄ alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
© Cymdeithas y Beibl 2023