1
Genesis 2:24
beibl.net 2015, 2024
Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig. Byddan nhw’n dod yn uned deuluol newydd.
సరిపోల్చండి
Explore Genesis 2:24
2
Genesis 2:18
Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.”
Explore Genesis 2:18
3
Genesis 2:7
Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.
Explore Genesis 2:7
4
Genesis 2:23
A dyma’r dyn yn dweud, “O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd. ‘Dynes’ fydd yr enw arni, am ei bod wedi’i chymryd allan o ddyn.”
Explore Genesis 2:23
5
Genesis 2:3
Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a’i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna’r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.
Explore Genesis 2:3
6
Genesis 2:25
Roedd y dyn a’i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
Explore Genesis 2:25
హోమ్
బైబిల్
ప్రణాళికలు
వీడియోలు