Ioan 1

1
Arweiniad
1Yn y dechrau roedd y Gair. Duw a’r Gair, A’r Gair, Duw oedd yntau. 2Yn y dechrau — Roedd y Gair gyda Duw.
3Fe wnaed popeth drwy’r Gair: Heb y Gair, chafodd dim ei wneud erioed. 4Yn yr hwn a ddaeth i fod, roedd bywyd, ac fe ddaeth y bywyd hwn yn oleuni i bawb.
5Mae’r goleuni hwn yn disgleirio yn y tywyllwch o hyd. Ac nid yw’r tywyllwch byth wedi llwyddo i’w ddeall na’i ddiffodd.
Y Gair yn dod i’r byd
6Fe anfonodd Duw ddyn o’r enw Ioan, 7i fod yn dyst i’r goleuni hwn, fel y clywai pawb y neges a chredu. 8Wrth gwrs, nid ef ei hun oedd y goleuni — dweud am y goleuni oedd ei waith ef. 9Roedd y gwir Oleuni hwnnw sy’n goleuo pob dyn byw yn dod i’r byd.
10Roedd ef yn y byd, y byd roedd ef ei hun wedi ei wneud, ond wnaeth pobl y byd mo’i nabod. 11Yn wir, fe ddaeth at ei bobl ei hun, a dyma’r rheiny hyd yn oed yn ei wrthod. 12Ond am y rhai a roddodd groeso iddo, ac ymddiried ynddo, fe gawson nhw’r hawl ganddo i berthyn i deulu Duw. 13Nid geni naturiol yw peth fel hyn, nid rhyw na bwriad dyn sy’n gyfrifol amdano, ond Duw ei hun. 14Fe ddaeth y Gair yn ddyn, i fyw yn ein plith ni; fe welsom ni mor ogoneddus oedd ef, yn odidog am mai ef yw unig Fab Duw, yn llawn trugaredd a gwirionedd.
Ioan yn dweud am Iesu Grist
15Dyma fel y dywedodd Ioan amdano gan gyhoeddi’n glir: “At hwn roeddwn i am dynnu sylw pan ddywedais i, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn llawer pwysicach na fi; yn wir, roedd hwn yn bod cyn fy ngeni i’.” 16Ac yntau mor wir gyfoethog, rydym ni bawb wedi cael ganddo brawf ar ôl prawf o’i ras. 17Fe roddwyd y Gyfraith drwy Moses, ond trwy Iesu Grist y daeth gras a gwirionedd. 18Mae’n wir nad oes neb erioed wedi gweld Duw — ond mae yr Unig Un sydd yng nghyfrinach calon ei Dad, wedi ei ddatgelu i ni.
19Pan anfonodd yr Iddewon offeiriaid a Lefiaid o Jerwsalem i ofyn i Ioan, “Pwy wyt ti?” 20fe atebodd gan gyfaddef yn glir a heb wadu, “Nid fi yw’r Meseia.”
21Felly medden nhw ymhellach, “Beth amdanat ti, ynteu? Ai Eleias wyt ti?”
“Nage wir,” meddai.
“Ai ti yw’r Proffwyd?”
“Dim o gwbl,” atebodd.
22“Wel, pwy wyt ti?” medden nhw eto. “Mae’n rhaid i ni roi ateb i’r rheiny sydd wedi’n hanfon ni. Beth sydd gennyt ti i’w ddweud amdanat dy hun?”
23Atebodd yng ngeiriau’r proffwyd Eseia:
“Llais ydw i sy’n gweiddi’n uchel mewn tir anial,
‘Gwnewch ffordd union ar gyfer yr Arglwydd’.”
24Nawr roedd y rhain wedi eu hanfon gan y Phariseaid; 25a dyma nhw’n ceisio’i gornelu ef wedyn, gan ddweud, “Os nad wyt ti na’r Meseia, nac Eleias, na’r proffwyd, pam rwyt ti’n bedyddio?” 26Ac meddai Ioan, “Rydw i yn bedyddio mewn dŵr. Ond yn eich plith chi mae’r Un sy’n dod ar f’ôl i, ond dydych chi ddim yn ei nabod ef. 27Dydw i ddim digon da i ddatod carrai esgidiau hwn.”
28Digwyddodd hyn i gyd ym Methania, yr ochr draw i’r Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.
29Drannoeth fe welodd Ioan yr Iesu yn dod ato, ac meddai, “Edrychwch, dyna Oen Duw sy’n tynnu i ffwrdd bechod y byd. 30Am hwn roeddwn i’n sôn pan ddywedais i, ‘Mae un dyn yn dod ar f’ôl i sy’n bwysicach na fi; yn wir, roedd hwn yn bod cyn fy ngeni i’. 31Doeddwn i ddim yn gwybod pwy fyddai, eto yr unig reswm pam y deuthum i a bedyddio mewn dŵr oedd er mwyn dangos hwn i Israel.”
32Fe ddywedodd Ioan ymhellach: “Mi welais i’r Ysbryd yn disgyn o’r nefoedd fel colomen, ac yn gorffwys arno. 33Doeddwn i ddim yn ei nabod ef, ond roedd Duw, oedd wedi f’anfon i i fedyddio â dŵr, wedi dweud, ‘Pan weli di’r Ysbryd yn disgyn ar rywun, ac yn gorffwyso arno, fe fyddi di’n gwybod mai hwn fydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.’ 34Fe welais i hynny, ac rwy’n dyst byw mai hwn yw Mab Duw.”
Dilynwyr cyntaf yr Iesu
35Drannoeth roedd Ioan yno eto gyda dau o’i ddisgyblion pan gerddodd yr Iesu heibio. 36Syllodd Ioan arno, ac meddai, “Edrychwch, dyna’r Oen y bydd Duw yn ei aberthu.”
37Clywodd y ddau ddisgybl ef, a dyma nhw’n canlyn yr Iesu.
38Pan edrychodd yr Iesu yn ôl gwelodd nhw yn ei ganlyn, ac meddai wrthyn nhw, “Am beth rydych chi’n chwilio?”
“Rabbi” (mae’r gair yn golygu ‘Athro’), medden nhw, “ble rwyt ti’n aros?”
39“Dewch i weld,” atebodd yr Iesu.
A dyma nhw’n mynd a gweld lle’r oedd ef yn byw ac yn aros gydag ef weddill y diwrnod hwnnw. Roedd hyn tua phedwar o’r gloch y pnawn.
40Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywodd Ioan ac a aeth ar ôl yr Iesu. 41A’r peth cyntaf a wnaeth ef oedd cael gafael ar ei frawd, Simon, ac meddai wrtho, “Rydym ni wedi dod o hyd i’r Meseia.” (Hynny yw, ‘Crist’, sy’n golygu ‘Eneiniog’). 42A dyma ddwyn Simon at yr Iesu. Ac meddai’r Iesu, gan edrych ym myw ei lygaid, “Simon wyt ti, mab Ioan; fe gei di dy alw’n Ceffas,” (hynny yw, Pedr, sy’n golygu Craig).
43Drannoeth fe benderfynodd yr Iesu fynd i Galilea. Ac fe gwrddodd â Philip, ac meddai, “Tyrd ar fy ôl.”
44Roedd Philip, gyda llaw, fel Andreas a Phedr yn dod o Fethsaida.
45Wedyn, dyma Philip yn cael hyd i Nathanael, ac yn dweud y stori, “Rydym ni wedi cwrdd â’r Un y sgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith; fe sgrifennodd y proffwydi amdano hefyd. Iesu yw ef, mab i Joseff, ac mae’n dod o Nasareth.”
46“Nasareth!” meddai Nathanael. “A all unrhyw beth da ddod oddi yno?”
“Tyrd i ti gael gweld drosot dy hun,” meddai Philip.
47Pan welodd yr Iesu Nathanael yn dod yn nes ato, fe ddywedodd amdano, “Dyma Israeliad gwerth yr enw, a heb dwyll yn y byd ynddo.”
48“Sut rwyt ti yn fy nabod i?” holodd Nathanael mewn syndod.
“O,” atebodd yr Iesu, “roeddwn i wedi dy weld di dan y goeden ffigys cyn i Philip gael hyd i ti.”
49“Athro,” meddai Nathanael wrtho, “ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel.”
50“Wyt ti’n credu hyn,” meddai’r Iesu wedyn, “am i mi ddweud fy mod i wedi dy weld di o dan y goeden ffigys? Fe weli di bethau dipyn mwy na hynny!” 51Ac meddai ymhellach, “Credwch chi fi, fe gewch chi weld y nefoedd yn llydan agored, ac angylion Duw yn esgyn a disgyn ar Fab y Dyn.”

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Ioan 1: FfN

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి