Luc 13
13
Yr angen am edifeirwch
1Yr un adeg, daeth rhai ato i adrodd hanes y Galileaid y cymysgodd Peilat eu gwaed â’u haberthau eu hunain.
2“A gredwch,” meddai yntau mewn atebiad, “fod y Galileaid hynny yn waeth pechaduriaid na’r gweddill, am iddyn nhw ddioddef fel hyn? 3Na, dim o gwbl, os na wnewch chi newid eich ffordd o fyw, yr un fydd eich hanes chithau. 4Neu meddyliwch am y deunaw hynny y syrthiodd tŵr Siloam arnyn nhw a’u lladd. Ydych chi’n meddwl eu bod nhw yn waeth troseddwyr na phobl eraill Jerwsalem? 5Nid felly o gwbl. Fe fyddwch chi yn marw yr un modd, os na wnewch chi newid eich ffordd o fyw.”
Y ffigysbren ddiffrwyth: amynedd Duw
6Yna aeth ati i adrodd y ddameg hon, — “Daeth dyn a chanddo ffigysbren yn ei winllan i chwilio am ffrwyth arno, ond heb ei gael. 7Felly dywedodd wrth y gwinllannydd, ‘Dyma’r drydedd flwyddyn imi chwilio’n ofer am ffrwyth ar y pren hwn. Tor ef i lawr. Pam mae’n mynd â thir i ddim diben?’ 8Ond meddai’r gwinllannydd, ‘Syr, dyro gyfle iddo am flwyddyn arall, ac fe gloddiaf o’i amgylch a rhoi gwrtaith iddo. 9Ac os daw ffrwyth yn y dyfodol, popeth yn dda. Ond os na ddaw, yr adeg honno fe’i torrwn i lawr’.”
Iacháu gwraig ar y Dydd Gorffwys
10Digwyddodd ei fod yn dysgu yn un o’r synagogau ryw Ddydd Gorffwys. 11Ac roedd gwraig yno a fu mewn gwendid mawr am ddeunaw mlynedd oherwydd ysbryd drwg. Roedd yn ei dau ddwbwl, a heb allu sythu o gwbl. 12Pan welodd yr Iesu hi, galwodd hi ato gan ddweud wrthi, “Rhyddhawyd di o’th wendid, fy merch i.”
13Rhoddodd ei ddwylo arni, ac ymunionodd hithau ar unwaith, gan ddechrau moli Duw. 14Ond am i’r Iesu iacháu ar eu Dydd Gorffwys, cwynodd llywydd y synagog yn gas wrth y dyrfa: “Mae yna chwe diwrnod arall o’r wythnos ar gyfer gweithio! Dowch ar y dyddiau hynny i chwilio am iachâd, nid ar y Dydd Gorffwys.”
15Ond ebe’r Arglwydd wrtho, “Y rhagrithwyr! Onid yw pob un ohonoch yn arwain ei ych neu’i asyn o’r preseb at y dŵr ar y Dydd Gorffwys? 16Bu hon, a hithau’n un o blant Abraham, yn gaeth wrth dennyn Satan am ddeunaw mlynedd. Oni ddylid ei rhyddhau hithau o’r caethiwed hwn ar y Dydd Gorffwys?”
17Cywilyddiodd pob un o’i wrthwynebwyr wrth glywed hyn, ond roedd y dyrfa i gyd wrth ei bodd yn cael bod yn dyst o’r holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.
Teyrnas Dduw fel had mwstard a surdoes
18“I ba beth,” gofynnodd, “y mae teyrnas Dduw yn debyg? Pa ddarlun a gawn ni ohoni? 19Mae’n debyg i hedyn mwstard y mae dyn yn ei gymryd a’i hau yn ei ardd, a hwnnw’n tyfu’n bren, a’r adar yn gallu nythu yn ei ganghennau. 20Pa ddarlun arall sydd o deyrnas Dduw? 21Mae hi fel y burum a guddiodd gwraig mewn hanner can pwys o flawd, nes bod y cwbl wedi codi.”
Cymhelliad i ymdrechu
22Felly yr elai ymlaen drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu a nesu at Jerwsalem. 23Holodd rhyw ddyn ef, “Syr, ai ychydig yn unig gaiff eu hachub?”
A’r ateb a gawson nhw oedd, 24“Ymdrechwch i fynd i mewn drwy’r drws cul, oherwydd gallaf eich sicrhau y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn, ond heb lwyddo. 25Cyn gynted ag y bydd Meistr y tŷ wedi codi a chau’r drws, a chithau’n sefyll oddi allan gan guro a galw, ‘Syr, agor y drws inni,’ fe etyb, ‘Wn i ddim o ble y daethoch chi.’ 26Yna yr erfyniwch, ‘Buom yn bwyta ac yfed gyda thi, a thithau’n dysgu yn ein heolydd.’ 27Yntau’n gorfod ateb, ‘Rwy’n dweud eto wrthych chi, does gen i ddim syniad pwy ydych. Ewch ymaith, bob un ohonoch chi sy’n ymddwyn yn ddrwg!’ 28Dyna lle byddwch yn wylofain ac ysgyrnygu dannedd bob yn ail wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chithau wedi’ch gadael y tu allan. 29Bydd pobl yn dod o’r dwyrain a’r gorllewin, o’r gogledd a’r de, ac yn eistedd wrth y bwrdd yn nheyrnas Dduw. 30A sylwch, rhai sydd olaf heddiw fydd flaenaf yno, a’r rhai blaenaf fydd ymhell ar ôl.”
Herio Herod
31Yr un adeg, daeth rhai Phariseaid ato i’w rybuddio, gan ddweud, “Gwell iti ddianc a mynd oddi yma: mae Herod am dy waed.”
32Atebodd yntau, “Ewch a dywedwch wrth y llwynog hwnnw, ‘Heddiw ac yfory rwy’n brysur iawn yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu, a’r trydydd dydd byddaf wedi cyrraedd fy mwriad.’ 33Ond rhaid imi deithio ymlaen heddiw, yfory a thrennydd, oherwydd wnâi hi mo’r tro i broffwyd gwrdd â’i ddiwedd oddi allan i Jerwsalem.
34“O Jerwsalem, Jerwsalem! Sy’n llofruddio’r proffwydi, a llabyddio’r rhai a ddanfonir atat! Sawl gwaith yr hiraethais i am gasglu dy blant, fel yr iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd; ond gwrthod wnaethoch chi! 35Yn awr, mae eich tŷ wedi ei adael yn llwyr i chi. Credwch chi fi, welwch chi byth mohono i eto nes daw’r amser pan ddywedwch, ‘Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd.’ ”
ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:
Luc 13: FfN
హైలైట్
షేర్ చేయి
కాపీ
మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971