Ioan 7:1-13

Ioan 7:1-13 DAFIS

Wedi'r pethe hyn âth Iesu o fan i fan in Galilea. Wedd e'n mynd mas o'i ffordd i beido mynd miwn i Jwdea achos bo'r Iddewon in treial i ladd e. We Gwyl ir Iddewon, Gwyl i Tents, ina agos. So wedodd i frodyr wrtho fe, 'Dere o fan 'yn a cer i Jwdea, fel bo di ddisgiblion di in galler gweld i gwaith mowr wit ti'n neud. Sneb in neud pethe heb weuth neb arall, os yw nhwy am i bobol eriill wbod amdanyn nhwy. So gadwch i'r byd i gyd wbod beth ych chi'n i neud! Weno brodyr Iesu i unan hyd 'n ôd in i ddilyn e 'to. Atebo Iesu, 'Seno'n amser i wedi dod 'to, ond ma di amser di wastad 'ma. Gall pobol i byd hwn ddim di gasáu di. Man nhwy in in gasáu i, achos bo fi'n gweu 'thyn nhwy bo nhwy'n neud pethe drwg. Cerwch i'r wyl. Seno'n amser i wedi dod 'to, a wedyn sena i'n mynd.” Gwedodd Iesu hyn a aros lle wedd e in Galilea. Wedi i frodyr Iesu fynd i'r wyl, âth e, ond heb weud wrth neb. In istod ir wyl we'r bobol fowr in whilio am Iesu a'n gofyn, “Ble'n i byd mae e?” Âth rhei o'r crowde bledo â'i gily amdano fe. We rhei'n gweud, “Mae Iesu in ddyn da,” on we dinion erill in gweud, 'Mae e'n gweud celwy wrth bobun.” Ond we ofon ar bobol weud wrth i dinion mowr, so wedo neb ddim amdano fe o flân dinion dierth.

చదువండి Ioan 7